Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Galatea Gan OLWEN LLEWELYN WALTERS PAN oeddwn i ar gwr y crowd mi wyddwn ar unwaith mai Wili Saes- neg oedd o. Wedi dyfod bob cam o Sir Gaernarfon yr oeddwn i er mwyn edrych am fy chwaer Nel a'i gŵr. Daethant hwy i Gwmtileri adeg cau'r chwarel ar ddeoh- rau'r rhyfel, pan gafodd gŵr Nel waith yn y pwll glo, ac yno y maent o hyd. Yr oedd y sioe wedi galw arnaf i a'r Sionis o bell. Gwelwn ei goleuadau fel perlau disglair yn y nos. Wrth nesáu tu- ag yno ni welai ein traed y ffordd oddi tanom; hudwyd a dallwyd ein llygaid gan y golau lliwgar yn gwibio heibio inni i'r tywyllwch. Anogai pob gewyn ynom i frysio brysio, fel y chwyddai'r miwsig llawen a llanw'r awyr. Rhoddais dro neu ddau ar y rownda- bowt; saethais at y peli nwyfus yn dawn- sio ar golofn fyw o ddŵr; gollyngais gein- iogau cyndyn yn araf i lawr ar wyneb bwrdd mewn ymdrech ofer i gyrraedd un ysgwâr bychan. Yna, wrth loetran ger yr hwp-la, sylwais ar dorf fwy nag arfer o gylch stonding arall. Ac yn y fan honno, fel y dywedais, y gwelais Wili Saesneg. Ef oedd fy ffrínd pennaf pan oeddym yn blant, ac wedi hynny hefyd, yn fech- gyn a glas-lanciau. Magwyd ef gyda'i nain, ond yr oedd ei fam yn gweini yn Llandudno, a byddai Wáli'n mynd yno weithiau i'w gweld. Pan ddeuai'n ôl oddi yno byddai ganddo un neu ddau o eiriau Saesneg, ac yr oedd hyn yn ddigon yn ein hardal hollol Gymraeg ni i'w lys- enwi'n Wili Saesneg. Yn ein canol ni, Gymry uniaith, buan y collai Wili ei ych- ydig Saesneg, ond glynodd yr enw. Byddaf yn meddwl weithiau i fywyd moethus Llandudno fynd i esgyrn WÎIi, achos yr oedd rhyw doriad gwahanol yn- ddo i ni'r bechgyn eraill yn y chwarel. Tra byddem ni'n ddigon bodlon i gicio pêl ar noson waith yn ein trywsusau mel- faréd ac esgidiau hoelion mawr, ni wnâi hynny'r tro i Wili. Newidiai ef ei ddillad gwaith bob gyda'r nos, a safai ar Ben Clwt gyda sigarét yng nghornel ei geg, a'i wallt wedi ei blastro i lawr hefo dŵr a chrib mân. Nid oedd y bêl yn tynnu dim ar Wili cael rhywun i wrando amo, dyna'i hoffter ef. Wrth gwrs, fe briododd yn rhy gynnar, ac, wrth gwrs, ni phriododd yr un iawn. Buasai Mair Eluned yn wraig dda i ddyn darbodus, cynnil, gweithgar hynny yw, yn wraig dda i ddyn hollol wahanol i Wili. A dweud y gwir yn blaen, bu'r rhyfel yn ddihangfa wyrthiol i'r ddau. Caeodd y chwarel, aeth y bechgyn ar waso-ar, a diflannodd Will. Chwarae teg i Mair Eluned, ni chyffrôdd ddim, ac ni smaliodd ei bod hi'n ei ddisgwyl yn ôl- gwyddai na ddôi Wili byth. Aeth hi yn ôl i fyw at ei mam, ac ar hyn o bryd y mae'n gwneud bwyd i'r plant yn yr ysg- ol. 'Rhoswch chwi, mae'n siwr bod chwe blynedd bellach ers hynny. A dyma Wili Saesneg yn awr yn cadw stonding mewn sioe yng nghanol Sir Fynwy Edrychais ar y geiriau uwch ben y