Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwarae Gwyddbwyll Gan ALUN T. LEWIS DYNA'R gloch dri. Mae'r awr orffwys ar ôl cinio drosodd, a bydd y bechgyn sydd ar y graddau gwaith yn gwisgo'u hesgidiau trymion, ac yn mynd i gyrchu bawb ei raw, neu ei fforch, neu gribin, neu drywel, yn ôl y gradd. Byddant yn mynd heibio i ffenestr agored y gell yma yn y munud, yn frown gan yr haul a'r gwynt; olew yn eu gwallt, a fflach yn eu llygaid er mwyn y nyrsus; yn edrych cyn iached â'r gneuen, a'u holl osgo'n ymffrost yn y ffaith eu bod hwy ar y llwybyr i wella'n llwyr, ac yn barod unrhyw ddydd i fynd i weld 'yr hen ddyn;' a mynnu iddo benodi diwrnod iddynt- fynd adre'n ôl. Dywaid cerdded- iad pendant pob un ohonynt: "Ma rhai pobol yn diodda oddi wrth y diciau. I goncro fo wnes i." Mi fydd gan bawb ei bwt wrth basio. "Sut 'rwyt ti heddiw, Wil?" "Faint o wynt gest ti yn dy fol y tro dweutha?" "Mae hi'n braf ar rai pobol yn cael gor- feddian yn 'i gwlau a ninnau'n gorfod llafurio a chwysu." "Fuo nyrs Puw yn edrach am danat ti neithiwr?" "Glywaist ti am Ianto a nyrs Ifans? Yn y pantri fachgen, a mi daliodd Metron nhw. Mi fydd yn gythraul o row. Ma'r hen ddyn yn siWr o ddweud wrth y ddau am hel eu pac." Dyna'r adeg y bydd Twm-sydd yn y gell nesaf-Q minnau'n chwarae gwydd- bwyll, er fy mod i 'n torri'r rheolau wrth wneud hynny. Mae'r Apostol Pawl yn sôn yn rhywle am orthrwm y ddeddf o dan yr hen oruchwyliaeth. Wn i. ddim beth a wnâi'r creadur o dan oruchwyl- aeth y Sanatoriwm yma. Nid deg gorch- ymyn sydd yma ond degau, yn wrychoedd manwl o gylch pob awr o'r dydd, fel gardd focs henffasiwn. Mi fuasai'r Apos- tol hyd yn oed yn fodlon i ddyn wingo weithiau'n erbyn y symbylau. Yn y bore y gwna'r is-f eddyg ei archwil- iad beunyddiol o'r bloc, ac aeth 'yr hen ddyn' heibio hanner awr yn ôl i'w swyddfa. Mi fydd yno tan amser te, yn astûdio'r darluriiau pelydrol o'n hysgyf- aint ni, ac adroddiadau'r chwiorydd am hynt ein tymheredd, a chyflwr ein stum- og. Nid oes gennyf ryw lawer a awydd chwarae'r prynhawn yma. Mae pob math o feddyliau wedi bod yn gwau drwy fy ymennydd er y bore, fel cynrhon mewn ysgerbwd. Ond y mae Twm wedi gwaeddi ers pum munud, ac wedi hen os- od ei ddynion ar y ford bellach. Benth- yciodd ef set o'r ystafell gynnull, ac y mae gennyf finnau un fy hun. Hefo dwy set fel hyn, gallwn weiddi'r symudiadau o'r naill gell i'r llall. Dyma estyn y set o'r locar sydd wrth erchwyn y gwely. Ar ffurf blwch y mae, a thop y blwch yw'r bwrdd chwarae. Staeniwyd y top yn betryaJau du a melyn, a thorri twll bychan crwn yng nghanol pob petryal. Mae'r damau wedi'n gwneud o dyn, a'u lliwio'n goch a gwyn — coch am ei bod yn haws eu gweld ar y rhannau du o'r bwrdd. Ffitìwyd pob