Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwleidyddiaeth Gan T. GWYNFOR GRIFFITH DARLLENAIS yn ddiweddar un o'r astudiaethau hynny sy'n dechrau trin awdur trwy ddisgrifo'i gefndir hane> yddol (peth eithaf teg) ac yna'n rhyw led- awgrymu bod hyn yn esbonio popeth, fel petai'r llenor yn gwneud dim ond adlew- yrchu'i oes, ac fel petai'n bosibl i unrhyw ddyn arall a berthynai i'r un oes sgrifen- nu'r un gweithiau pe bai ganddo inc ac awydd. Sylweddolaf mai ofer, efallai, yw disgwyl gweld paid ar y fath feirniadu mwyach; ond teimlaf, er hynny, mai dyl- etswydd yw gwneud rhyw brotest fach o bryd i'w gilydd. Dylid seilio tywysogaeth, yn ôl Mach- iavelli, ar arferion da, cyfreithiau da ac esiamplau da.l Ond yr oedd tywysogion cyfoes yr Eidal, meddai, yn meddwl mai unig anhepgorion tywysog oedd ei fod yn ei addurno'i hun ag aur a gemau, yn bwyta a chysgu mewn mwy o ysblander nag eraill ac yn ymroi'n llwyr i fywyd dioglyd.2 Yr oedd yr Eglwys hefyd yn euog o'i safbwynt ef: rhannai'r Eidal drwy gadw taleithiau yn ei chanol3 ac yr oedd ei swyddogion yn esbonio Cristnog- aeth "secondo l'ozio e non secondo Ia virtù," gan roi cymaint o bwyslais ar os- tyngeiddrwydd fel y collid pob cariad at ryddid a sefydliadau gweriniaethol.4 Ac yr oedd gweriniaethau ac unbennau ei 1 Principe, XXIV. Arte della Guerra, VII. 3 Discorsi, 1,12. 4 Discorsi, 11,1. a Chelfyddyd wlad yn rhy barod i ddibynnu ar hurwyr yn eu rhyfeloedd; yr oedd y fath filwyr yn ddi-ddisgyblaeth a thwyllodrus bob am- ser5. Nid dilyn Machiavelli yw fy mwriad yma. Dyfynnaf yr ychydig syniadau hyn er mwyn dangos bod cyflwr ei wlad mor druenus, yn ei olwg ef, nes gwneud ei haflwydd o 1494 ymlaen yn esboniadwy drwy resymau mewnol. A dyna, mae'n debyg, yw'r feirniadaeth arferol, er bod cryn anghydfod ynghylch y rhesymau. Mewn llyfr grymus a gyhoeddwyd yn ddi- weddar, er enghraifrt, ymesyd yr Athro J. H. Whitfield ar y thesis a goleddid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef bod gwendid yr Eidal yn ystod y cyfnod hwn yn tarddu o Baganiaeth newydd diwyll- iant y Dadeni.6 Ped ail-ddarllenem rag- flaenwyr Burckhardt, medd ef, fe'u cawsem yn chwilio am esboniad hanes- yddol am gwymp diwylliant, yn hytrach nag am achosion diwylliadol dros wendid- au gwleidyddol a chwrs hanes. Ac yn ôl ei ddadansoddiad ef, derbyn eu syniadau hwythau a wneir os deellir Machiavelli'n iawn. Os mynnwn edryoh ymhellach, cawn esboniad o safbwynt arall eto gan Von Martin? 7 Ar ôl olrhain cynnydd y dosbarth canol a'r torri a fu ar y ffiniau rhyngddo a'r uchelwyr ar ddiwedd y Can- 5 Principe, XII. 6 J. H. Whitfield: 'Machiavelli', 18-36. 7 A. von Martin: 'Sociology of the Renais- sance' (Cyf. Luctkens) T. 51.