Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Ddillad Gan W. V. HIGHAM "Hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant." — Hebreaid i 11. HEN siôl briodas "wedi gorffen mynd yn hen" ydoedd, a rhwygodd yn hawdd yn fy nwylo er i mi ei hagor yn ochelgar. Oedd, 'roedd y lliwiau a fu unwaith mor fyw a hoenus wedi marw hefyd; yr oeddynt i gyd wedi'u gorchudd- io o dan blisg o henaint llwyd marwol. Yn nrôr isaf y dresel y cofiaf hi erioed, fel darn o'r dodrefnyn hynafol ei hunan- rhyw goffadwriaeth o'r amser gynt. Cronnai dagrau croyw yn llygaid fy nain, fy hen nain, a disgynnent yn araf drwy'r creithiau a'r rhwygau ar ei hwyneb hith- au. Paham tybed? Am ei bod hithau, fel y siôl bellach, "wedi gorffen mynd yn hen." Atgof efallai. Ond pa ramant a allai fod mewn hen siôl bydredig fel hon, hen siôl lychlyd ddi-liw yng nghongl y drôr, a dim ond amser a phryfed yn ei bwyta? Ond y mae i bob darlun ei stori, ac i bob dilledyn ei achlysur. Nid oes rhamant yn perthyn i hen lodrau, cotiau a sanau o gwbl, ond fe saif ambell ddilledyn arwyddocaol fel carreg filltir ar daith bywyd. Cynrychiolant ryw gyfnod arbennig yn ein bywydau bach-y menyg gwlân a oedd yn fysedd i gyd, y trowsus melfed a wisgwyd ar y Sul ac amgylchiadau neilltuol gynt, a chofiaf yn dda fel yr oedd yn gas gennyf gyff- wrdd ag ef. Yr un teimlad a geir wrth grafu fforch yn erbyn plat, neu rygnu ewinedd ar astell ddu. Ni chythruddir y dychymyg ychwaith gan ei ynni i hedfan ar hynt freuddwydiol i wlad atgofion, pan welir hen bâr o sanau a thyllau ynddynt. Oes, y mae i ambell ddilledyn ei hanes, ond yr un hanes sydd i'r rhan fwyaf ohon- ynt i gyd, ac nid yw hynny yn gyfyng- edig i hen ddillad ychwaith,-sef mynd yn hen. Ni wn pa bryd y gellir dweud bod dill- edyn yn gorffen bod yn newydd ac yn dechrau mynd yn hen. Rhywbeth tebyg onide i'r ffordd yr ydym yn agosáu at ganol oed, nes canfod ryw ddydd ein bod wedi mynd yn hen, yn ddiarwybod i ni ein hunain bron. Fe dwylla henaint bob enaid byw, gan arafed ei ddyfodiad, a chan sicred hefyd â'r llanw at draed y brenin Canute gynt. Beth yw henaint tybed? Corff pydredig a meddwl niwlog, ynteu rhyw fath o siop ail law yn llawn o gelfi, a stori i bob un? A fydd henaint yn taflu mantell rydlyd dros y meddwl hefyd, ai ynteu a welir ef yn wahanol trwy len profiad a gwybodaeth? Pwy a ddyw- ed nad oes rhyw ramant yn perthyn i hen- aint fel i bob cyfnod arall mewn bywyd? 0 leiaf y mae'r sicrwydd na fyddwn yn hen yn hir; gofala trefn rhagluniaeth am hynny, ac yna ni bydd raid pryderu mwy. Y mae i henaint ei atgofion melys ac an- felys, taith bywyd, gobeithion a sylwedd- olwyd a siomedigaethau; gadawant eu hôl arnom ninnau hefyd. Nid pob craith a ymddengys yn amlwg i'r llygad er cym- aint ei dyfnder; fe ymguddia fel rhwyg pryf dillad yn ddisylw ar yr olwg gyntaf,