Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ond yno y mae, er hynny, fel cysgod ang- au. Mor debyg ydym i ddillad, yn cych- wyn bore oes â gwedd lân, ond try helynt- ion bywyd ni'n ddrylliog cyn hir. Y mae'r byd yn llawer mwy creulon i rai nag i eraill; gwelais lawer hen farclod stwff cartref, fel llawer mam wedi gwisg- o'i ffwrdd gan waith, a gwelais lawer hen drowsus, dwyn afalau yn diweddu ei oes fel ei feistr heb fawr o ôl y byd na gwaith arno. Lluchia llawer un glwt ymaith gan ei dybio'n hen ddilledyn, tra cwyd un ar- all ef fel pe bai urddwisg orau'r byd oedd; a fo ddiwerth i un sydd fendith i arall. Y mae tuedd i ddilledyn, fel i ddyn, ddisgyn yn y raddfa gymdeithasol; gwel- ais cyn heddiw gardotyn yn gwisgo siwt a dorrwyd gan un o deilwriaid gorau'r wlad; gweld bwgan brain yn gwisgo het silc a chot briodas y sgweiar. Helynt ac ar- swyd inni yw meddwl am ddisgyn mewn bywyd, onidé? Mae ofn disgyn felly fel ofn angau inni. Truenus yw gweld urdd- CYWYDD FFARWEL (I'r Parch. T. R. Lewis, B.A., B.D. ar ei ymadawiad o eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghricieth a Phorthmadog i'r De). Yn nhirion fro Eifionydd Gwŷr o'r De a garia'r dydd, A phob cam cyn daw C'lamai I'r De'r â T.R. ar drai. Iddo mwy ni fydd y môr Na Drws Ardudwy'n drysor. Ni wêl dwr o hwyliau del Yn gwyro tua'r gorwel- Hyd y dwfn blodau y don Yn nwylaw yr awelon. O'n bro fwyn dwg i'r lofa Olud aur y Bugail da. *Deurodwr, a direidi Ei lais llednais fel y Ili, Un â medr yma adref 'Gofiwn ni pan gefno ef. Fe'n dug yn nes at Iesu, Glân a gwir ei galon gu. Cricieth. *Ar ddeurodur y teithiai rhwng Cricieth a Phorthmadog haf a gaeaf. wisg brenin ar gefn cardotyn, ond pwy a wyr ym mha le y diwedda ein hynt nin- nau? Eithr y mae i'r rheini eu hatgof- ion os nad eu hurddas hefyd, a phwy a wad na pherthyn rhyw ramant i dywysog a ddisodlwyd i blith dynion cyffredin; fe saif mor eglur â chap salw glowr ymhlith hetiau silc a menyg gwynion boneddigion. Unwaith eto edrychais ar wyneb rhych- iog fy nain, ei chorff plygedig, ei dwylo crynedig; crymai ei hysgwyddau fel pe bai wedi blino cynnal ei phen; pwysai beunydd yn drymach ar ei hen ffon. Henaint yn hagr? Tybed? Onid olion brwydr bywyd sydd yma? — brwydr galed iawn r rai ohonom, brwydr a edy graith arnom bron i gyd. Ond dyna, sôn yr oeddwn am y siôl, ac nid am nain. Siôl briodas nain, plygais hi'n ofalus gan ei hail-osod yn ei lle. "Rhyw weddill o fywyd blinedig Wedi gorffen mynd yn hen." W. R. P. GEORGE.