Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr /Abbey Theatre' (SEFYDLU'R ABBEY THEATRE YN NULYN) Gan R. WALLIS EVANS YN nechrau'r flwyddyn 1898, ysgrifen- nodd Lady Gregory nodiad diddor- ol mewn dyddiadur a gadwai: "Yeats and Sir Alfred Lyall to tea." "Yeats stayed on. He's very fond of play writing He, with the aid of Miss Florence Farr, an actress, who thinks more of a romantic than of a paying play, is very keen about taking or building a little theatre somewhere in the suburbs to produce romantic • play s Y mae'n bur sicr, erbyn hyn, na sylw- eddolodd hithau, wrth ysgrifennu, y bu- asai'r cyfarfod syml a nodasai yn gych- wyn i'r cam pendant cyntaf i gyfeiriad sefydlu'r 'Abbey Theatre' a datblygu'r ddrama ddiweddar yn Iwerddon, oblegid, fel y dengys y nodyn, "somewhere in the suburbs" y bwriadai Yeats sefydlu ei theatre, nid yn Iwerddon ei hun. Blynyddoedd tawel ond effro oedd y blynyddoedd rhwng 1880 a 1900: yr oedd bron pob agwedd ar fywyd yn rhyw ddir- gel ymbaratoi ar gyfer cyfnod newydd. Yr oedd dyfroedd profiad yn ymgronni fel petai, a chyn bo hir gwelwyd hwy yn dy- gyfor, a chreu ffyrdd newydd iddynt eu hunain, gan mor gadarn eu nerth. Cyf- nod o weld pethau newydd ydoedd, cyf- nod o arbrawf ac effaith, ac i un a'i ddi- ddordeb mewn drama, y pennaf peth oedd darganfod Ibsen, oblegid nid ydys eto wedi llwyr ymysgwyd â'i ddylanwad. Ganed Ibsen, fel y gWyr pawb ohonom, yn Norwy. Bu'n gofalu am theatr fawr yno, ac ynddi ceisiodd weithio allan ei syniadau newydd am gynnwys a ffurf drama ynghyda phroblemau hyfforddi. Un o'i brif ddaliadau, o'i osod yn syml, oedd hyn: bod yn rhaid i'r ddrama ym- wneud â phroblemau'r dydd od oedd i fyw a datblygu mewn nerth, a phan gofiwn mai peth newydd hollol, bron, oedd synio fel hyn yn y bedwaredd ganrif ar bym- theg gwelwn mor bwysig oedd ei argy- hoeddiad. Dramâu yn ymwneud â'r gorffennol oedd holl ddramâu'r Groegiaid. Felly hefyd holl gynnyrch Shakespeare, ac yr un oedd y stori, mwy na lai, i lawr i'r ganrif ddiwethaf. Methu fu hanes Ibsen droeon, ond tua diwedd yr ymgyrch daeth llwyddiant a gogoniant i'w ddilyn. Bu gan ei waith ddylanwad ar wledydd Ewrop i gyd. Dan ei ddylanwad ef y cododd André Antoine ei 'Theatre Libre' ym Mharis yn 1887, a rhoi cyfle trwy hynny i lu o ysgrifenwyr newydd weld cynhyrchu eu dramâu eu hunain ar lwyfan, heb sôn am y chwarae a fu ar waith Ibsen, Strindberg a Tholstoi. Mewn cyfnod cymharol fyr o ddeng mlynedd cafwyd dros 124 o ddramâu newydd, mwy na 12 pob gaeaf. Felly y bu yn yr Almaen: ffurfiodd Otto Brahm yn 1889 Gymdeithas y Theatr Rydd, a than nawdd y gymdeithas honno, gwel- wyd chwarae gwaith Hauptman Ibsen, Zola, a Tholstoi ac amryw o wyr modern eraill.