Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cardis Gan HESGIN PAN oeddwn i'n hogyn ym Mhenllyn, dros drigain mlynedd yn ôl, clywais droeon rai o'r hen bobl yn dweud, dan wenu, mai prif gynhyrchion sir Aberteifi oedd "lloi a chiwradiaid." Gan nad oedd ciwradiaid (beth bynnag am loi) yn boblogaidd yng Nghymru yr adeg honno -amser "Rhyfel y Degwm" oedd hi-yr oedd y sylw yn un braidd yn amharchus, ac yn awgrymu yr edrychid ar y Cardis fel rhai heb fod yn hollol fel trigolion deu- ddeg sir arall Cymru. Wedi imi symud i Gwm Rhondda yn niwedd 1895, pan eglurwn mai "un o'r North" oeddwn, dywedid wrthyf, ag och- enaid o ollyngdod, 'D ych chi ddim yn Gardi, 'te!" O dipyn i beth sylweddol- ais. yr edrychid ar y Cardis fel tylwyth ar wahân. Addefid eu bod, lawer ohonynt, yn rhai deallus, siarp, ond tipyn yn giwt. efallai— yn rhai "clever at a bargain," chwedl Wil Bryan. Credid, hefyd, eu bod yn rhai ymwrthgar. Dywedid: "Os caiff Cardi ei droed i mewn i ryw ys- tafell, fe fydd e' yn y gadair freichiau wrth y tân cyn hir." Rywsut neu'i gil- ydd nid oeddynt yn cael eu cyfrif yn Hwntws na Northmyn. Ac fel yr âi'r blynyddoedd heibio cadamhawyd yr ar- graff hon amdanynt ar fy meddwl; nid ydyw y Deheuwyr am eu harddel fel rhai ohonynt hwy, ac ni fyn y Gogleddwyr mohonynt am bris yn y byd. Bu ffrynd imi yn llywodnaethwr swyddfa argraffu'r 'Times of India,' Bombay, am flynydd- oedd. Pan ydoedd gartref ar ei wyliau unwaith cawsom sgwrs am yr 'Eurasians' sy'n hanner. Indiaid a hanner Ewropeaid. "Ar y cyfan," meddai, "y maent yn bobl ddeallus iawn; mewn gair, y mae llawer ohonynt cyn giwtied a sgamgar â llond gambo o fwnciod." 'Dydw i ddim am fynd mor bell ag awgrymu mai'r Cardis ydyw 'Eurasians' Cymru. Ond 'Sgwn i a ydyw'r Cardis yn teimlo ym mêr eu hesgyrn nad ydynt yn hollol fel pobl eraill, a bod hynny yn dueddol i'w gwneud yn ddarostyngedig i hunllef cym- hlethdod israddoldeb (inferority com- plex). "Bobl annwyl!" medd rhywun, "y Cardis o bawb yn dioddef oddi wrth 'inferiority complex' Onid ydynt yn credu, ac yn datgan hynny ar bob am- gylchiad, mai hwy ydyw "halen y ddae- ar," a bod ganddynt fwy o 'fennydd "to the cubic inch" na neb arall? Ydynt; ond dyna un o arwyddion yr anhwyldeb. GWyr pawb paham y mae ambell hogyn yn chwibanu wrth basio mynwent. Un o brif apostolion chwedl y rhagoriaeth yma, ac efengyl y brolio, oedd y diwedd- ar Syr John Rowland. Bu cryn lwydd- iant ar ei genhadaeth am dymor. Ond "efe a fu farw ac a gladdwyd," ac y mae llai o docynnau sengl o Dregaron i Gaer- dydd yn cael eu codi yn awr. Heblaw "lloi a chiwradiaid" cynhyrch- odd sir Aberteifi lenorion hefyd. Beth sydd ganddynt hwy i'w ddweud am eu cymdogion? Gadawer inni sylwi ar waith tri ohonynt: (1) Caradoc Evans. Nid rhaid ond crybwyll enw Caradoc Evans i wneud i'r Cardi fynd yn gaclwm. Ac y mae gan-