Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Swyn y Mapiau Gan T. I. ELLIS 'IJWY'N oofio darllen unwaith fod un o arweinwyr bywyd crefyddol Cym- ru yn ei ddifyrru ei hun yn ei oriau ham- dden drwy astudio mapiau a 'Who's Who.' Ac yn wir, mae'n ymddangos i mi ei fod yn bur agos i'w le, oherwydd mae gan fapiau swyn rhyfeddol. Gall y gwr cyfarwydd draethu'n ysgolheig- aidd ar nodweddion technegol yr hen fapiau, o'r cyfnod cynnar hyd amser Humphrey Llwyd, Christopher Saxton, John Speed, John Cary, ac eraill; o fap- iau cyntaf yr 'Ordnance Survey' yn 1791 ymlaen hyd at ein hamser ni, a'r map- iau mawr diweddaraf y gellir bron weld arnyn-nhw, chwedl un o'm cyfeillion, y tatws yn tyfu yn y gerddi yng nghefn y tai: ond gall y fforddolyn cyffredin yntau gael llawer iawn o fwynhad o edrych yn fras ar yr hen fapiau a syllu ar fapiau heddiw fel ei gilydd. Ychydig amser yn ôl bûm yn edrych ar lyfr John Ogilby, 'Britannia,' a gyhoeddwyd yn y flwydd- yn 1675. Dyma'r teitl yn llawn: 'Brit- annia, or an Illustration of the Kingdom of England and Dominion of Wales: By a Geographical and Historical Discription of the Principal Roads thereof: Actually Admeasured and Delineated in a Century of Whole-sheet Copper Sculps/ Di- ddorol odiaeth oedd darllen pa fodd y rhedai'r ffyrdd yng Nghymru y pryd hwnnw, bron dair canrif yn ôl. Nodir un briffordd o Dyddewi ar draws Cymru i Dreffynnon: âi hon i Fathri ac Aber- gwaun, i Drefdraeth ac Aberteifi: Blaen- porth, Llanarth, Henfynyw, Llanddewi Trwy ganiatâd y B.B.C. Aberarth, ac i Ie a elwir Molinamore. Ni wn beth yw'r lle hwn, onid yw rhywle tua'r Morfa Mawr, y fferm a fu'n eiddo unwaith, mi gredaf, i Abaty Ystrad Fflur, ac sydd yn awr ym meddiant Coleg Aberystwyth. Llanrhystyd, croesi Rheid- ol, i Lanbadarn Fawr, ac ymlaen i Ryd- ypennau a Thalybont, lIe y oeid gweith- iau arian ar y chwith, ac i Fachynlleth. Hyd yma y mae ein ffordd ninnau hedd- iw'n dilyn yr un llwybr, ond o hyn ym- laen mae tipyn o wahaniaeth. Croesi Dyfi ar ôl gadael Machynlleth, heibio i Lanwrin ac Aberangell (yr ochr arall i Ddyfí y rhed y ffordd fawr heddiw), ac i Ddinas Mawddwy a Llan-y-Mawddwy. Wedyn "Bullagrois a great mountain two miles high": tipyn o gamp, mi dybiwn i, fyddai dringo'r ffordd honno i ben Bwlch- ygroes. Yna nodir Pont-yr-Afon-Fechan ond dim sôn am Lanuwchllyn. Ond son- nir am Langower, "a small village" a'r Bala, "a small town corporate." Oddi yno hyd at y fan lle saif capel Bethel yn awr, a chadw ar y chwith yn lIe troi i lawr tua'r dde fel y gwnawn heddiw, ac ymlaen i Fetws GwerfyI Goch. Diddorol iawn oedd gweld y lIe hwn<ýn edrych yn bur bwysig ar y map-yn bwysicach o lawer na Chorwen, er enghraífftØys yn y Betws deuai ffordd arall, o Qaer, i mewn. O'r Betws ar hyd ffordd fynydd- ig i gyffiniau Clocaenog, i Ruthyn a Llangwyfan, dros y bryniau eto, pasio 0 fewn milltir i Ysceifiog, ac i Dreffynnon yn y diwedd. Dyma daith John Ogilby yn yr ail gan-