Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cenedlaetholdeb Gan ITHEL DAVIES Heddiw pan yw'r byd, megis, yn y pair, nid anniddorol nac anfuddiol ydyw ceisio deall yr elfennau sydd yn ei gyf- ansoddi ac y sydd, hefyd, yn ei gyffroi. Rhoddwyd pwyslais ar genedlaetholdeb, mewn egwyddor, yn y byd ar ôl rhyfel 1914-1918, yn arbennig yn Ewrop. Bu datblygiadau pwysig ar y llinellau hyn yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel. Yn awr, wedi terfyn yr ail ryfel byd, ac ar waethaf y sôn am uno'r byd mewn cyf- amod cydwladol effeithiol, y mae berw cenedlaethol wedi ymledu a dycnau yn hytrach nag fel arall. Cawn weled mor naturiol a sylfaenol ydyw hynny. Yn yr ysgrif hon ceisiwn fwrw golwg ar ystyr a gwerth cenedlaetholdeb ac yna, mewn ysgrif i ddilyn, ymchwiliwn i natur cyd- wladoldeb a holi pa un ai rhywbeth i gym- ryd lIe cenedlaetholdeb ydyw ai ynteu rhywbeth a all fod yn gyflawniad ohono mewn byd a drigiennir gan genhedloedd. Nid oes odid ymlyniad cadarnach nag ymlyniad dyn wrth ei genedl, ac nid oes ymlyniad mwy naturiol. Fê berthyn pob dyn i ryw genedl, ac wrth ei eni iddi a'i ddwyn i fyny ynddi daw i'w fywyd y pethau amgylchiadol mwyaf sylfaenol. Un o'r digwyddiadau naturiol hynny yw na pherthyn i ddyn unrhyw ddewis yn ei benderfynu. O'r bywyd hwnnw y tyn yr adnoddau sydd yn sylfaen i'w holl fywyd cymdeithasol. Yn y bywyd hwnnw y clymir i fyny yr holl elfennau cymdeáithasol a berthyn iddo, ac ynddo y caiff y cyfryngau sydd yn elfennau han- fodol yn ei gyfathrachau. Tuedd dynion ymhobman ydyw ceisio a chadw eu hunaniaeth a'u hunoliaeth genhedlig. Nid yn unig y mae hynny'n beth naturiol ond y mae hefyd i'r un graddau yn beth hanfodol. Canys y mae mwy o bethau yn gyffredin i ddynion y tu mewn i'r bywyd cenedlaethol nag sydd mewn unrhyw gylch cymdeithasol arall. Er bod pob dyn yn meddu nodweddion sydd yn gyffredin i ddynoliaeth gyfan peth sy'n rhagdybio unoliaeth hanfòdol a sylfaenol yr hil ddynol, y mae pethau ar- bennig a 11001 fel iaith, diwylliant, hanes, traddodiadau ac yn y blaen yn peri cys- ylltiadau neilltuol nas ceir ond mewn bywyd cenedlaethol. Y mae i bob cen- edl iaith a hanes a diwylliant a thraddod- iadau, ond y maent yn wahanol ymhob cenedl. Nid yr un ydyw iaith y Cymro a'r Sais, neu'r Sais a'r Ffrancwr, ac er bod iaith yn gyffredin i bob dyn nid yw'r Gymraeg yn gyffredin ond i'r Cymry. Felly, hefyd, y nodweddion amrywáol er- aill. Er mai "dyn yw dyn ar bum cyf- andir," dyry'r bywyd y mae'n ei fyw bob dydd arbenigrwydd arno oherwydd y wlad arbennig y perthyn iddi, a'r bobl arbenniig y mae iddo gyfathrach naturiol bob dydd â hwy. Ni ellir dadlau y pethau hyn allan o fodolaeth. Nid chwilen teimladrwydd ydyw cenedl ond ffaith gymdeithasol, a'r ffaith gymdeithasol fwyaf dynamig. Peth cwbl ofer a niweidiol ydyw dadlau, fel y gwna rhai, dros ddifodi cenhedloedd a chenedligrwydd gan feddwl mai pethau drwg ydynt. Y mae meidroldeb a gallu