Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bob Talaith yn yr Unol Daleithiau a chyn- rychiolaeth gyfartal yn y Cyngor Cen- hedloedd i bob Gweriniaeth yn yr Undeb Sofiet. Y mae hyn yh rheidrwydd syl- faenol i unrhyw drefn o undeb gwleidydd- ol cenhedloedd. Efallai y gellir dweud mai drwy roddi i fyny hawliau sofran i gorff cydwladol y rhwyddheir y ffordd i gydnabod yn ddiamodol hawliau cysefin y bywyd cenedlaethol ym mhob rhan o'r byd. Canys nid yw rhoddi i fyny hawl- iati sofran gwlad yn golygu dim mwy na 'i bod yn barod i dderbyn barn eraill o'r tu allan iddi ar faterion sydd yn codi o'i pherthynas â gwledydd eraill, a rhoi i fyny'r hawl i fod yn unig f?rnwr ar ei hachos ei hun a hefyd yr hawl i ymddwyn heb fod yn atebol i neb yn y byd y tu allan iddi hi ei hun. Bydd ymddwyn mewn cytgord â chydwybod orau dynol- iaeth yn lles yn hytrach nag yn niwed i unrhyw fywyd cenedlaethol a dwg rydd- had oddi wrth ofn a malltod rhyfel sydd yn fwy na dim yn niweidiol i genhedlcedd. Pe rhoid atalfa gan ddieflig ffawd Ar yr egnion dirgel sydd yn cloi v Afrifed fân ronynnau hyn o gnawd Yn un gyfundrefn gyfrin, a gweld ffoi O'r holl atomau yn dyrfâu direol I wagle'r cread yn finteioedd chwim,— Pob rhan o'r gell yri ôl i'w hen foreol Ystad, pan nad oedd haul, na sêr, na dim; A fyddai'n aros, wedi chwalu o'r plisgyn, Ryw weddill i frithgofio am a gaed 0 fwyn raslonrwydd byd a'r loes wrth ddisgyn I afael troeon dyrys cig a gwaed; Ynteu, a fyddai rhin y bywiol hwn r Yn faluriedig friw drwy'r cread crwn? Rhosllanerchrugog. Y mae'n anodd deall cyndynrwydd llawer o'r gwledydd yn gwrthod cydnabod hawliau hollol elfennau y bywyd cenedl- aethol ond o'r safbwynt mai Grym Gwlad- wriaethol yn yr ystyr milwrol yn unig sydd yn bwysig. Y mae unrhyw wlad sydd yn gweithredu ar egwyddor felly yn sefyll ar draws llwybr datblygiad y gwar- eiddiad sydd yn fynegiant o werthoedd cymdeithasôl a phersonol uchaf dynol- iaeth. Po fwyaf y meddylir am y peth, mwyaf eglur yn y byd yw mai'r egwydd-f or genedlaethol mewn gwrthgyferbyniád i'r egwyddor wladwriaethol yw'r unig eg- wyddor resymol a safadwy fel sylfaen i drefn wleidyddol. Uned Grym yw gwlad- wriaeth. Uned y bywyd cymdeithasol llawn ydyw'r genedl. Ac ni ellir perthy vnas heddychol yn y byd ond trwy.gyd- nabod hawliau cenedl a'i rhyddid i fyw ei bvwyd priod a naturiol ei hun ac i ddat- blygu a meithrin y bywyd cenedlaethol hwnnw yn ei holl gyflawnder. Ni ddaw gwareiddiad y bywyd diwylliedig, dyrch- afol i'w gyflawniad ychwaith heb hynny. CHWALFA W. J. BOWYER.