Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Greft ar Gynnydd HEDDIW mewn oes pan glywir llawer П o sôn ar dudalennau ein papurau newyddion ac ar dafod leferydd am ddar- fod hen grefftau defnyddiol ein gwlad, di" ddorolyw sylwi fod o leiaf un grefft sydd ar gynnydd. Crefft yw hon sydd neu, 0 leiaf a ddyl- ai fod, yng nghyrraedd y rhan fwyaf o drigolion Cymru. Nid oes reswm yn y byd pam na all naw deg a phump y cant ddysgu'r grefft hon yn rhwydd, gan en- nill ychydig o arian a enw iddynt eu hun- ain trwy wneud hynny. Mewn dyddiau a fu fe welid bron ym hob gardd wenyn mewn cychod gwellt. Yr oedd pob tyddynwr yn cadw gwenyn; fe gâi pawb ymborthi ar fêl, ac ymbleseru ar ei rinweddau moethus. Tua dech- rau'r ganrif hon difawyd nifer fawr o heidiau gan glwy-y clwy Acaraidd, ac o ganlyniad lleihaodd nifer y cychod yn fawr, er colled i Gymru gyfan. Tua'r un adeg hefyd daethpwyd â math arall o gwch ar y farchnad — cwch pren, ynghyda ystramiau y gellid eu tynnu allan o'r cwch heb niwed i'r gwenyn; nid oédd rhaid ychwaith fygu'r gwenyn â brwmstan i gael y mêl. Ond fel pob dyn arall, mae'r gwenyn- wr yn amharod iawn i dderbyn ffordd newydd o gadw eu stoc, ac fe leihaodd nifer gwenynwyr Cymru yn fawr. Gŵr o'r enw Langstroth o'r Amerig a ddargan- Gan J. HUW ANWYL fu yn 1871 y dull newydd yma, ac fel heddiw yr oedd llawer yn amharod iawn i dderbyn "new ideas" o'r Amerig, heb dderbyn hefyd dystiolaeth profiad am ychydig o flynyddoedd. Heddiw y mae'r grefft hon ar gynnydd oherwydd bod gwenynwyr Cymru wedi sylweddoli gwerth y darganfyddiadau newydd. Mae'r posibiliadau yn ddi-ben- draw ond inni achub y cyfle. Cred rhai fod y fusnes yn golygu gormod o amser a thraul, ond rhai nad ydynt yn gwybod dim amdani sydd yn siarad fel yna. Nid oes raid imi sôn rhyw lawer am werth mêl i ddyn. Ond mae un peth y carwn grybwyll. Oherwydd prinder, ni welir mêl ar fyrddau ein haelwydydd; yn hytrach fe'i cedwir yng nghongl cyp- yrddau, lle yr erys hyd nes y bydd ei eis- iau i leihau effaith annwyd a'r cyffelyb. Dylid ei gael bob pryd, yn lle ei gadw dros amser. Petai gwerin Cymru yn gwybod gwerth mêl fel bwyd, fe fyddent ar ôl gwenynwyr ein gwlad fel gwenyn! Dyma yn üdios fwyd na cheir ei well yn unman, ac eto, oherwydd na chesglir ef, fe â tunelli ar dunelli ar goll bob blwydd- yn ym mlodau prydferth ein gwlad. Tru- eni onid e, fod y fath gyfleusterau i fwydo pobl ein gwlad yn cael eu colli fel hyn. Awn ati, werin Cymru, i gadw gwenyn, canys oni ddywed y Beibl, "Fy mab, bwyta fêl, canys da yw, a'r dil mêl, canys melys yw i'th enau."