Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SPHINX Crëyr wrth gamlas yn llonydd a syn A durtur yn clwydo ar fondo gwyn; Ar orwel rhosliw mae'r haul ar ŵyr A thros osteg ei fachlud daw gosteg hwyr; A thithau heb wybod na thranc nac oed Wrth erchwyn dy fynwent yn bod erioed Tawel yw'r mwmi'n ei feddgell ddu; Ni chwennych a fydd ac nis dawr a fu. Tawel yw'r Pharaoh yn Aboukir; Ni chyffry amser ei angof hir. Wyt dawel dithau heb gŵyn na chri, Ond llefara doe o'th dawelwch di. Er a gafodd o hedd a'th addolodd cyd Wyt fudan ladmerydd ei ofn o hyd, A chyniwyd i arswyd dy dremynt di Ei oesol gyfaddawd â'i glwy a'i gri; Wyt fudan fel yntau-mor fud â'i fraw Pan aeth o'i Abydos i'r byd a ddaw. Nid erys i'th randir o swyn na bri Ond a ymliw fel cynt â'th lonyddwch di- Llonyddwch y diffrwyth anialwch: moel Nad edwyn ei dywod na thras na choel, A'i dwymyn beuhos dâh ennaint oer Hen orffwỳsgarwch y nos a'r lloer. Nid oes heddiw a gydnebydd degwch dy bryd Na'ohwennych chwithdod dy lygaid mud; Fe'th foldiodd doe ar ei batrwhr ei hun- Mynnodd dristwch dy lygaid yn llygaid ei fun, Ac ni wisgodd y Duwdod fy mreugnawd i Heb wefusau trwm fel dy wefus di.- Botwnog. G. J. ROBERTS.