Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y NANT I ryddid o'r ddaear Yn gaethes o garchar, Yn llefain yn llafar Y ciliaf. Yn llithrig, yn llawen, Yn hylon mewn heulwen, Yn fwynaf, lân feinwen, Y dawnsiaf. A gwenaf mewn gweunydd Rhwng meini y mynydd. I hudo ehedydd A garaf. A molaf y moelydd, Y braenar a'r bronnydd, Ym mawnog y mynydd Breuddwydiaf. Af wedyn yn fodlon I fynwes yr afon, Yn dirion i'w dwyfron A chysgaf. YR AFON Trwy gymoedd canghennog y troellaf Rhwng glannau meillionnog hawddgaraf, Gan chwilio a chrio, ochneidio a cheisio Am hiniog y cartref a garaf. A gwasgaf fy nentydd i'nì dwyfron, Fy mhlantos o amgylch fy nghalon. Ar ddyddiau hirfelyn daw ceinciau ar dejyn I'w suö dah fysedd awelon. Ond weithiau daw dyddiau dioddef A phryder i rwygo fy nhangnef,- Fy mhlantos yn rhuthro dros gnydau gan grio Ar alwad y ddrycin a'i dolef. Ond wedyn daw gwynfyd gollyngdod: Gwcld doldir y môr a'i ryfeddod; A rhedaf â hyder dros hiniog yr aber I fynwes y dyfroedd diddarfod.