Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MOR Myfì yw'r diddarfod, yr eigion diwaelod A thadmaeth holl ddyfroedd y byd. Mae nawdd i'r afonydd a'u rhuthrog lifogydd Yng nghelloedd fy nyfnder i gyd. A chadwaf neuaddau o wymon a chreigiau I gasglu trysorau eu llif, Stafelloedd o gwrel a saffir dwfn anwel, Gwelyau i'w nentydd di-rif. A rhuaf yn wallgof i gadw dyn rhagof Fel na allo reibio fy stâr: A chwipiaf fy nyfroedd yn wyrddlas fynyddoedd I sgubo'i frau-fadau o'r môr! A phan ddaw addfwynder â'i ddyddiau dibryder A glesni trofannau i'm gwedd, Gadawaf i'r tonnau fynd allan i'r traethau I sisial eu seiniau mewn hedd: Am weunydd a moelydd, a mawnog a mynydd, Am hudo ehedydd yn {JJ; Am geinciau ar delyn a dyddiau hirfelyn A rhuthro dros gnydau ar ddôl. Llandysül. LESLIE HARRIES.