Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Nid yw'r Eisteddfod yn ddigon slic; Y peth sydd eisiau yw mwy o gic. Ond gwnaeth yr Eisteddfod fiiiwn o elw, Meddai'r henwr.yn welw,- I ble'r aeth y filiwn?- Pafiliwn!" Hank T. Hopkins, 'New York.' Clywsai fod Cymru'n dihoeni, A daeth o'i haelioni mawr, I rwygo'r nos a'i cylchynnai A chynnig ei newydd wawr. Onid oedd ef wedi llwyddo Mewn masnach llè methai'r lleill, A llwyddiant a fyddai Cymru Pe cawsai'r wlad ar ei weill. Bu'n barod bob amser i helpu'r llesol Trwy rym ei bwysau a'i allu busnesol. Pan oeddech chwi yn eich gwely Yn chwyrnu breuddwydion yn chwâl; Pan oeddech yn garn gysgaduriaid Rhwng esmwyth flancedi'r wâl, Wele ein cefnder effro Yn llygad goleuni a haul, Yn dringo at faes yr orsedd Ar waethaf ei ddiffyg traul, A'r beirdd o'i amgylch yn eu gŵn-nosis Yn lliwio'r llethrau fel gardd o rosis. Meddyliodd am lu ei gymrodyr Na welodd EISTEDDFOD erioed; Ni fedrent ymwybod â'r ysbryd Cymreig Heb deimlo'r maes dan eu troed. Myfyriodd yn ddwys am y genedl mewn gwae Wrth ddychlyn ei ffordd drwy'r mwd yn y cae. Cynhalient rhyw fân Eisteddfodau Gan frawlan tafodiaith eu bro, A lleng o hogiau anwaraidd O'r tu ôl yn dynwared llo. Diwylliant y'u gelwir gan bobl sy'n ffoli Ond dylid eu hatal neu'u 'cenedlaetholi.' Gwelodd mewn fflach â'i lygad treiddgar Fod hyn yn gofyn am gynllun beiddgar. A gwelodd (ar ôl bod yn cnoi ei ewinedd) Mai bwrn y Cymro yw cyffredinedd.