Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYR RICHARD WILSON Annwyl Olygydd "Y FFLAM," Wedi darllen erthygl y Parchedig L. Haydn Lewis ar Richard Wilson yn rhifyn diwethaf Y FFLAM tybiais yr hoffai Mr. Lewis a darllenwyr Y FFLAM glywed am lyfr newydd ar Wilson a gyhoeddwyd yn ystod 1947. Teitl y llyfr yw 'Richard Wil- son, R,A. The Grand Classic," (Leigh-on-Sea, 1947; £ 5. 5s,) a'r awdur yw Adrian Bury, gwr a gyhoeddodd eisoes gyfrolau tebyg ar hanes John Varley, Thomas Collier, a phync- iau cyffelyb. Yn sicr dyma'r gwaith mwyaf cynhwysfawr a ddaeth o'r wasg hyd yn hyn ar Wil- son a'i hanes a'i gelfyddyd. Ceir yma ffeithiau newydd am y dyn a'i waith, a hefyd ymgais fanwl i ddadansoddi ac egluro ei safle arbennig o'i gymharu ag arlunwyr ei oes ei hun a'r oesau dilynol, yn ogystal a'i ddylanwad aruthrol arnynt. Rhennir y testun yn bedair pennod: un fywgraffyddol, dwy yn ymwneud â'i waith, y naill â'i bortreadau a'r llall â'i dirluniau, a'r bennod olaf y rhoi hanes ei ddisgyblion. ei ddylanwadau, a'i ddilynwyr Yn ychwanegol at hyn ceir rhestr o rai cannoedd o'i ddarluniau ynghyd â manylion am eu cartrefi presennol, yn gasgliadau cyhoeddus a phreifat; rhestr arall o ysgythriadau a llin-gerfiadau o'i waith, a rhestr o ddarluniau ychwanegol a briodolir i Wilson. Cynnwys y gyfrol hefyd 48 o ddarluniau gwych, wyth ohonynt yn ddarluniau lliw. Gyda llaw dywed Mr. Bury mai yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain y mae gwreiddiol y darlun godidog o Gader Idris sydd mor adnabyddus. Bu gynt (hyd 1945) yng nghasgliad Syr Edward Marsh. Y mae gwaith helaethach fyth ar Wilson ar y gweill ar hyn o bryd gan un o aw- durdodau pwysica'r dydd yn y maes arbennig hwn. Edrychir ymlaen yn eiddgar am y gyfrol hon, cyfrol a fydd yn ffrwyth ymchwil a barn gŵr profiadol a dreuliodd ei oes yn myd celfyddyd. Yn sicr bydd i'r ddwy gyfrol yma rhyngddynt lenwi'r bwlch y cyfeiria Mr. Lewis ato. Yr eiddoch yn gywir, MEGAN ELLIS. Pennaeth Adran y Darluniau a'r Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. OBSTINATE CYMRIC THE STONES OF THE FIELD John Cowper Powys 7s. 6d. R. S. Thomas 6s. TALES OF THE SQUIREARCHY AWEN Y WAWR Nigel Heseltine 6s. J. Eirian Davies 4s. WALES Edited by Keidrych Rhys 2/6d. Annual Subscription lOs. THE DRUID PRESS, Ltd., CARMARTHEN