Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yng Ngolau'r Fflam ADDYSG MEWN OED UNUSUAL STUDENTS, gan Harold M. Watkins. Yn bendifaddau y mae'r llyfr hwn yn gyf- raniad pwysig i unrhyw arolwg ar gyflwr bywyd cymdeithasol Deheudir Cymru, yn enwedig Morgannwg, yn fwyaf 'arbennig yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Dyma olwg ar y Deheudir diwydiannol yn y cyfnod trist hwnnw drwy ffenestri dosbarthiadau addysg mewn oed. Nid yw'r llyfr yn ymdrin â damcaniaethau addysg i rai mewn oed yn gymaint â rhoddi darlun hynod o ddynol o'r mathau o fyfyrwyr a gawsai'r awdur dan ei ofal fel athro am gyfnod o dros ugain mlynedd wedi 1920. Maes arbennig Mr. Watkins, wrth gwrs, oedd Economeg a Gwyddor Cymdeithas- pynciau wrth fodd calon ei fyfyrwyr. Un peth a'm trawodd wrth ddarllen y gyfrol yw'r gwahaniaeth amlwg rhwng dos- barthiadau ar lawr gwlad yng Nghymru a'r math o ddosbarth a ddarlunir yma. Diddor- deb llosg ym mhroblemau economaidd yn y cylchoedd diwydiannol, egni a chraffter meddwl, weithiau gweld dosbarth yn gyfle i ddyfod ymlaeri yn y byd, dro arall yn gyfle i ymgymhwyso i geisio gwella amodau byw. Odid nad yw dosbarth yng nghefn gwlad yn fwy hamddenol ei ysbryd, yn foddion i gyf- oethogi meddwl yr efrydydd, yn barhad o draddodiad a dull yr Ysgol Sul Gymreig. Nid hwyrach fod addysg er ei mwyn ei hun yn fwy o ysgogiad i fyfyriwr dosbarth mewn oed yn y wlad, tra bo ceisio addysg at ddiben gwella amgylchiadau ei fywyd, a barnu oddi wrth y llyfr hwn, yn fwy o gymhelliad i'r myfyriwr mewn ardal ddiwydiannol. Dichon fod a wnelo gwahaniaeth cylchfyd lawer â'r rhagor hwn. Y mae'r naill yn gylchfyd sefydlog a phob ymnewid cymdeithasöl' 'yn dyfod ac yn mynd heibio'n araf a digynnwrf, tra bo rhyw Gwasg y Brython, 1947. Tt. 143. 8/6. ansefydlogrw) dd ac ansicrwydd yn cyniwair drwy fywyd y gymdeithas ddiwydiannol, a gwerth ymarterol addysg o ganlyniad yn bwysicach yng ngolwg efrydydd mewn ardal ddiwydiannol o'i gymharu ag efrydydd mewn ardal amaethyddol. Peth arall a'm trawodd wrth ddarllen y llyfr oedd absenoldeb llwyr unrhyw amgyffred deallol ar ran efrydwyr Mr. Watkins o ber- thyn i gymdeithas sydd hefyd yn genedl. Nid Cymro yn gymaint â dyn economaidd yw'r Deheuwr nodweddiadol a ddarlunir yma. Yr agosaf y daw ei fyfyrwyr i ymglywed â pher- thyn i gymdeithas rhagor dosbarth arbennig yw'r sylw a wneir am un ohonynt ar dudalen 101: "He was particularly scornful about people 'who seemed to be more interested in China than in England.' 'Don't forget, charity begins at home' Y mae'r llyfr yn llawn o ddiddordeb dynol. Heblaw hynny, y mae'n dystiolaeth i lafur athro a ymroes yn ddiflino i oleuo a dyrchafu ei gyd-ddyn. Dyma rai o sylwadau'r awdur: "O gredu yn yr angen i wella'r drefn economaidd a chymdeithasol, jnae'n rhaid 'gweithio dros hynny mewn gwahanol ddulliau, ac nid dib- ynnu'n unig ar amser a damwain pwerau cymdeithasol." "Dylid mesur cynnydd disgybl drwy ddulliau amgen nag arholiad ysgrifenedig." "Y mae'r mwyafrif o weith- wyr diwydiannol yn amheus o'r brifysgol." "Yr wyf bob amser wedi ei chael hi'n anodd cael gan y gwragedd ddweud eu barn neu hyd yn oed ofyn cwestiynau." "Datblygu ei dalentau a'i bersonoliaeth i'r radd uchaf posibl a ddylai fod yn nod yr unigolyn, a delfryd cymdeithasol cymundodau yw codi'n uwch o hyd ar raddfa gwareiddiad." E.B.