Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDDONIAETH Y DEYRNAS GOLL, gan Iorwerth Cyfeiliog Peate. Llyfrau'r Castell. Tt. 29. 1947. 4/ Y mae'r pum cerdd ar hugain, cynnwys y gyfrol fechan hon, yn gynnyrch deng mlyn- edd o brydyddu. Nid yw'n gynnyrch mawr, a naturiol, felly, ydyw inni ddisgwyl iawn am brinder y cynnyrch yn ansawdd y cynhaeaf. O'i chymharu â 'Plu'r Gweunydd' y mae'r gyf- rol hon yn dangos olion colli tir. Er engh- raifft, nid oes yma'r un gofal â chynt gydag ansoddeiriau-un o bennaf campau'r gwir fardd. O fewn cyffiniau dau ddwsin, mwy neu lai, o gerddi, ceir yr ansoddair "cêl" chwech o weithiau, yn odli deirgwaith â "mêl." Yna pethau fel "pêr gaethiwus," "pêr gerddi," "pêr gwmniaeth," "anniddigrwydd pêr," 'cnydau pêr," "cloddiau pêr." Ceir yr odl "Crist-trist" ryw deirgwaith, ac ni bu'n of- alus, chwaith, i osgoi ystrydebau megis "bwthyn tlws," "ysbryd byw," nac ymgadw rhag ambell ansoddair sydd yn ein hatgoffa am gerddi enwog, megis "llechwedd lom," ("llechwedd lom yr ôg" R. Williams Parry) Fe ddeuant eto, machgen hoff I'th swcro di fel pobun cloff ('Sionyn,' W. J. Gruffydd), "ffrwd garedig" ("Rhed y ffrwd garedig eto" — Crwys). Ond ái dyna'r cwbl sydd i'w ddywedyd? Pa fodd tybed y mae pontio'r gagendor rhwng trylwyr- edd iconoclastig adolygiad Gwyn Griffiths yn Y FANER a rhadlonedd hysbysebol W. J. Gruffydd mewn hysbyseb yn Y CYMRO? A oes raid cyhuddo'r naill a'r llall o anonest- rwydd clicyddol? Nac oes, mi gredaf. Y mae'r ddau yn dechrau o fannau gwahanol. Ni welaf sut-y gellir gwrth-ddweud dadleuon Gwyn Griffiths, ond efallai y gellid ei ateb trwy ddangos ei fod yn beirniadu'r bardd ar dir annheg. Dywed y bardd ei hun, "A rhugl ddiofal oedd fy nghân a mynegodd wir- ionedd sylfacnol am ei farddoniaeth. Bardd gwlad yw Peate-bardd gwlad a gafodd goleg, mae'n wir, ond bardd gwlad er hynny. Nid yw hynny'n betli i'w gywilyddio o'i blegid, chwaith. I mi, un o'r casgliadau difyrraf yn yr Am- gueddfa Genedlaethol yw'r casgliad o lwyau pren a geir yno. Wrth syllu arnynt pa ddydd, credais imi weld ynddynt ddaríun o dwf y bardd hwn. Dechreuir gyda llwyau syml, 'util- itarian,' defnyddiol-llwy sydd yn bodloni ar fod yn ddim byd ond llwy, wedi'i llunio'n gel- fydd i bwrpas arbennig, ac am hynny'n rhoi boddhad esthetig. Cymer y crefftwr ei ddefnydd- iau oddi wrth y deunydd wrth law, ond gyda'i fod yn llunio llwy sy'n brydferth i'r llygad am ei bod yn ddefnyddiol i'r llaw, daeth dan ddyl- anwad rhyw nwyd addurno. (Serch oedd y dyl- anwad hwnnw wrth gwrs!). Dechreuodd gerfio patrymau ar ei choes, ac o gael blas ar addurno felly, daeth y goes i fod-yn bwysic- ach na'r llwy ei hun, nes tyfu ohoni i fod yn rhyw droedfedd o hyd, gydag addurniadau cymhleth â dwy lwy ddiwerth ynghlwm wrthi! A oes angen cymhwyso? Nac oes mi gredaf. Y mae canolbwyntio'r bardd hwn ar odlau dwbwl yn amlwg ddigon. Cydiodd y clefyd yn gynnar ynddo. Yn ei: gyfrol gyn- taf, "Y Cawg Aur," cawn fod rhan helaeth ohoni yn gyfieithiadau o weithiau beirdd Seis- nig, ac y maent yn werth eu hastudio. Dyma fel y canodd Masefield yn ei gerdd "On Grow- ing Old." Be with me, Beauty, for the fire is dying; My dog and I are old, too old for roving. Man, whose young passion sets the spendrift flying, Is soon too tame to march, too old for rov- ing. Dyma gyfieithiad Peate: Aros, Brydferthwch, y mae'r tân yn gwelwi; Mae Pero a minnau'n hen, rhy hen i ysgaru. Parod ieuengwr hollfyd i arddelwi, Buan y cloffa, ac y paid â charu. Fel cyfieithiad nid oes fawr ddim i'w gym- eradwyo, ond y peth diddorol i sylwi arno yw iddo fynnu, ar waethaf gwneud pob cam pos- ibl â'r gwreiddiol, ddwyn i mewn ei odlau