Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn datblygu ffurfìau newydd o hyd. (Gyda llaw, y fnae'n arwyddocaol fod yn well gan Peate sonedau cynnar y bardd o Fethesda na'i ganu diweddar lle y mae yn anterth ei nerth fel bardd), Anaml y cawn y cyffro hwn yn sonedau'r gyfrol hon, ac un yn unig ohon- ynt sydd yn sefyll allan fel prawf o ddych- ymyg creadigol-y soned i'r Fen Ychen. Am y lleill nid oes iddynt rithm personol. Y mae'r adeiladwaith, bid siwr, yn gysact, y ffrâm yn fecanyddol gywir-ond y mae angen mwy na hynny. Y maent yn atgoffa dyn am 'blank verse' Pantycelyn-y peth marw-an- edig hwnnw, y mae dyn yn cael gwaith esbonio pam nad yw yn farddoniaeth fawr. Cymharer Caerdydd. CREFYDD A CHYMDEITHAS CREFYDD A'R GYMDEITHAS NEWYDD gan Oswald R. Davies, M.A., B.D. Gwasg y Brython, Cyfres Pobun, Rhif XIV. tt.63. 2/6. Mewn cyfres o lyfrau y mae'n anodd i olygydd gadw safon uchel ym mhob llyfr. Ond y mae gennym hawl i ddisgwyl rhywbeth gwell na Rhif XIV yng Nghyfres Pobun. Hwn yw un o'r llyfrau mwyaf diwerth a ddarllenais i erioed. Yn wir, nid wyf yn credu y buaswn wedi ei ddarllen drwyddo onibai fy mod yn ei adolygu yma. Y mae'r Parch; E. Tegla Davies ar fai am gyhoeddi'r llyfr yma, canys dywed ar ddechrau'r llyfr mai "ymdrin â'r problemau mawr a wyneba ein gwlad" y mae'r gyfres. Ond ychydig bach iawn o sôn a geir yma 'am broblemau Cymru, nac, o ran hynny, am broblemau unrhyw wlad arall. Heblaw hyn, nid llyfr ar gyfer "pobun" yw hwn; ond dywed y Golygydd mai ar gyfer "gwerin Cymru" y'i cyhoeddir. Y mae rhediad dadleuon Mr. Davies yn annealladwy i mi. Ar yr ail dudalen y mae'n cymryd yn ganiataol fod gwerin Cymru yn gyfarwydd â syniadau IÇarl Marx a Tennyson. Nid oes gennyf syniad beth yw'r gymhariaeth a wêl Mr. Davies rhyngddynt. Ac y mae yna lawer iawn o unrhyw ddam yn y mesur penrhydd hwn gan Williams â darn o waith Shakespeare neu hyd yn oed Marlowe, ac fe welir y rhagor sydd rhwng y 'mesur' a'r miwsig dwfn, cymhleth hwnnw sy'n gorwedd dan yr wyneb. A thlodi fel eiddo Pantycelyn yn y mesur 'blank verse' a welir yn sonedau Peate. Y mae ef ar ei orau yn canu'n 'rhugl ddiofal' ei hiraeth llen- cynnaidd am y wlad ledrithiol, breifat honno a adawodd ar ôl, neu yn hytrach a drawsblan- nodd i ddaear gerddi cymen Rhiwbina. Fel y crefftwr a'i lwyau pren, gwna'r deunydd nesaf wrth law y tro yn burion at waith fel hwn, ac wrth fwyta'r uwd blasus, neu yfed y cawl, ni bydd neb yn aros i feirniadu'r llwy. ANEIRIN TALFAN DAVIES. bethau eraill yn y llyfr sydd llawn mor ddyrys. Y mae'n anodd iawn gwybod beth y mae'r Parch. Oswald Davies yn ceisio'i wneud. Byddai "Crefydd Newydd a Chymdeithas" yn well teitl i'r llyfr yma. Canys nid yw'n dangos beth sy'n newydd yn y gymdeithas a ddisgrifir yma; ond y mae'r grefydd a ddis- grifir yma yn newydd iawn. Disgwyliwn ddar- lIen rhywbeth am athrawiaeth gymdeithasol Cristnogaeth. Ond siarad yn fras am 'gref- ydd' y mae ef, a'r 'grefydd' honno'n ym- ddangos i mi yn debycach i agnostigaeth nag i Gristnogaeth,-crefydq heb Dduw fel Cre- awdwr, Gwaredwr a Barnwr, crefydd yn an- wybyddu pcchod a gras, crefydd heb gredo nac addoliad. Rhoddaf yma ychydig o ddyfyn- iadau o'r llyfr ei hun rhag i mi roi'r argraff fy mod yn gwneud cam ag ef. Ar dud. 25 disgrifir Duw fel "gwrthrych y profiad crefyddol." (Onid cabledd yw siarad fel hyn?). "Yr un yn ei hanfod ydyw profiad crefyddol dyn yn ei gymundeb â Duw ag yn