Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

well gobaith i ddeall problem diweithdra pe ceisiem yn gyntaf ddeall paham y mae rhaid i ddynion heddiw weithio gymaint yn galet- ach na'u cyndeidiau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, er gwaethaf .darganfyddiadau gwyddonol a thechnegol i alluogi dyn 1 gynhyrchu nwydd- au yn haws ac yn gynt. Oni ddylai'r gweith- iwr gael gwell cyfle nag a gaiff heddiw i ym- arfer â'i ddoniau creadigol yn ei waith? Onid yw llawer o'r gwaith a orfodir ar ddynion yn llawer rhy beiriannol ac anniddorol? Dylai Cristnogion geisio deall beth yw pwrpas gwaith yn nhrefn Duw, a sylweddoli nad yw popeth o reidrwydd yn iawn pan fo gan bawb waith o ryw fath. Gallai Mr. Davies fod wedi ysgrifennu llyfr buddiolach pe bai wedi rhoi mwy o sylw i'r athrawiaeth Gatholig am Dduw a dyn a chymdeithas, a astudiwyd yn fanwl gan ysgol- heigion yn Eglwys Rufain ac yn Eglwys Loegr. Ond y mae'n well ganddo ef daflu baw Llanelli. CYFIEITHU MARCHNAD Y CORACHOD, gan Christina Rossetti. Troswyd i'r Gymraeg gan Aneirin Talfan Davies. Darluniau gan Mary Harvey. Gwasg Aberystwyth, 1947. 3/6. Cróeso cynnes i'r trosiad hoffus yma o 'Gob- lin Market' Christina Rossetti. Mae'n llyfryn del, a'r Iluniau gan Mary Harvey yn hyfryd, a'r cyfieithiad yn darllen yn esmwyth ac yn swynol ddigon. Rhyw fath o ail-greu yw pob cyfieithu, wrth reswm. Mae Mr. Aneirin Tal- fan Davies wedi ail-greu'n effeithiol, a gwirion fyddai disgwyl cyfatebiaeth fanwl rhwng y gwreiddiol a'r trosiad hyd yn oed yn yr "eff- eithiau" celfyddydol. Ni fyn Mr.Davies amddiffyn ei waith yn cyfieithu cerdd adnabyddus o'r Saesneg i'r Gymraeg. Dywed yn unig: "Y mae hanes llenyddiaeth ein gwlad yn ddigon o dystiolaeth dros gyfraniad gwerthfawr eln cyfeillion dros Glawdd Offa i fywyd llenyddol Cymru." Hoffaf y moesgarwch cyfeillgar yma, ond ar yr Eglwys Gatholig, a dweud iddi wrth- wynebu usuriaeth er mwyn ei lles ei hun, a chefnu ar yr athrawiaeth honno gyda chyn- nydd diwydiant. Ond yn ei lythyr "Rerum Novarum" y mae'r Pab Leo XIII yn con- demnio usuriaeth yn y flwyddyn 1891. Ac oni wyr Mr. Davies fod Martin Luther wedi gwrthwynebu usuriaeth? I ble y diflannodd y gwrthwynebiadProtestannaidd, ynte? Nid oes ganddo ef ei hun ddim i'w ddweud am usur- iaeth a swydd arian. Gresyn fod y llyfr yma gynddrwg methiant gan fod angen am lyfr neu lyfrau i gyflwyno egwyddorion cymdeithaseg Gristnogol i Gymru Gymraeg. Y peth tebycaf i hyn a geir yng Nghymru heddiw yw "Canlyn Arthur" Mr. Saunders Lewis, a rhai o'i ysgrifau yn "Y Faner." Y mae'n wir nad yw ef nemor byth yn sôn am grefydd; ond y mae ganddo yn gefn- dir i'w feimiadaeth ar gwrs y byd yr athraw- iaeth Gatholig am ddyn a chymdeithas. FRED JONES. teimlaf ar yr un pryd mai afiach fu dylanwad llethol llên Lloegr ar lên Cymru trwy ran hel- aeth o'r cyfnod modem, a da y cwynodd y Dr. W. J. Grugydd unwaith mai un o ganlyn- iadau trychinebus y Ddeddf Uno yng Nghymru oedd meithin "Meddwl y Cyfieithydd" yn ein gwlad, meddwl y rhai a oedd yn fodlon der- byn pob safon a phob ysgogiad o Loegr. Mae angen cyfieithiadau, wrth gwrs, a channoedd ohonynt; a phob bendith ar ein cyfieithwyr heddiw. Ond gan fod pob Cymro darllengar bron yn medru'r Saesneg, yr angen pennaf yw cyfieithiadau o ieithoedd eraill. Rhaid, felly, wrth ryw reswm arbennig i gyfiawnhau pob cyfieithiad o'r Saesneg. Yn ffodus, rhoddir digon o gyfiawnhad y tro yma mewn noòyîi ar y cloriau llwch, sef mai darn addas i'w adrodd