Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'i gydadrodd yw hwn. Cytunaf; ac o'r saf- bwynt yma hefyd mae'r cyfieithydd wedi gwneud ei waith yn gampus. Dywed Mr. Davies yn ei Ragair mai artist yn Philistia oedd Christina Rossetti. Gwir hynny. Eithr Philistaidd braidd yw "ath- rawiaeth" 'Marchnad y Corachod' ei hun; a rhaid (i mi, 0 leiaf) a*iwybyddu'r alegori er DRAMA TARFU'R C'LOMENNOD, Ffars Dair Act, gan Ieuan Griffiths. Gwasg Aberystwyth, 1947. Creodd Ieuan Griffiths ddau dylwyth yn y ddrama Gymraeg; neu gall ddefnyddio dwy saeth i darfu c'lomennod. Y mae ehediad y naill saeth yn gywirach na'r llall; honno sydd ar y llinyn yn y ffars hon. Enillasai Griffiths iddo'i hun, rhwng y ddau ryfel, gornel yn ein theatr trwy greu, o'i ddychymyg, gymdeithas ersatz. Cydiai mewn dyn a digwydd, digon cyfarwydd i'w hadnabod, a chwythu iddynt ei awel dro nes iddynt, ddyn a digwydd, chwyddo i faint y tu hwnt i bob normal. Gosodai naid-chwannen tan wydr a disgrifio pranciau behemoth,-neu gwelái lond Affrica o fwystfilod, a'u gwladychu ar dyddyn-deng-erw yng Nghymru. Yn ei wlad-wneud, ei fawr-a-bach yn y greadigaeth, labwstiai'n lysti ac ar dop ei lais. A dyna sbort cymysg o ffair Glangaea a noson-redeg- cychod-y-colegau; sbort cymysg o was-ffarm ac 'undergraduate'; dyna yw Ieuan Griffiths. Etifeddasai yntau'r ddrama "gymdeith- asol" — cwrw Ibsen wedi fflato. Bu raid iddo esgus yfed, (ni chwaraeid ei ddramau heblaw). Effeithiodd y gwynt beth arno, ond sobrodd. Mewn digel ffyrdd benthyciodd y botel a llanwodd hi â chrisial. Poblogodd y "gegin fach," y "gegin" a'r "gegin-orau" (holl adeilad y ddrama Gymraeg) a brid newydd o dylwyth teg, pob un yn dderyn dierth ymhlith c'lomennod y ddrama-ddadl farw. 'Yr Oruchwyliaeth Newydd' yw ei unig ddrama mwyn ymhyfrydu'n iawn yn y gerdd. Ond ochr yn ochr ag elfennau negyddol ei moeseg fe gyflwynir ynddi ddarlun aruchel o hunanab- erth cariadus, a'r darlun hwnnw, ynghyd â rhai o'r cymariaethau, sy'n rhoddi i'r gân ei mawredd. Mae 'Goblin Market' yn llawer uwch ei hansawdd na 'The Prince's Progress,' er bod dysgeidiaeth alegorïol honno'n fwy derbyniol. D.A. na phrofodd yr oruchwyliaeth newydd. Arhos- odd gwaddod realiaeth ffotograffaidd yn y botel, aeth y labwstio-ffair yn basyno-march- nad. Bu peth gwamalu ynglyn â dewis y saeth yn 'Y Ddau Dylwyth' hefyd, ond dewiswyd y saeth gywir a chreu toumamaint o rialtwch. 'Dirgel Ffyrdd' ac 'Awel Dro' a blannodd y tylwyth yma, er bod 'Y Ciwrad yn y Pair' a 'Lluest y Bwci' o'r un gwaed. Dyma hefyd wehelyth 'Tarfu'r Clomennod.' Wrth gwrs, yr un adar sy'n y dramâu. Weithiau bydd rhai yn bwrw'u plu, a rhai'n gripgoch, ond bob tro bydd wyau ffres yn y nythod. Y mae ieithwedd Glannau Canol Teifi yn g.ochdar soniarus a sbardunau ar y ceilogod a'r ieir yn crafu'r domen i bwrpas, a'r clos yn sbort i gyd; sbort yw'r cwbwl, medd y neb a flinodd ar y pregethwr. Y tro hwn y mae yma ŵr tan fawd ei wraig, y wraig honno, a chwaer iddi, honno'n ddiniwed tuhwnt, a phregethwr cynorthwyol ddigon i'r randibw, cynghorwr a fwriodd dipyn ar. blu cynghorwyr 'Dirgel Ffyrdd,' gwraig bwysig o'r ardal, a 'barmaid,' ag yn ired ar ecstri'r garafan, forwyn a phlismon, Y mae hefyd, wrth gwrs, y ferch ifanc sy'n deall holl droeon yr yrfa,-a'r deryn dierth, Americanwr. Droeon dychwelodd gŵr o America i'r ddrama Gymraeg gan greu, â'i belenni, garnifal, a pheri mwy nag un smotyn du. Haelioni dychymyg Ieuan Griffiths yn