Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llifo tros ben llestri a bair fod y Carnolyn hwn yn garn-iolyn â thro tros ben yn ei gynffon gyrliog. Ychwanegwch flys am farddoni, ias am brês rhad, chwant,am feistroli, dyheu am gariadon, archwaeth am grandrwydd, at y toes, y cwbl â llwy-fawr resait Garganturaidd Ieuan Griffiths, tylinwch yn ei gafn, a chewch deisen-barti y bydd briwsion ohoni (fel o'r crasiadau cynnar) yn siwr o dynnu ffowls afrifed i glwydo ym mhob neuadd-bentre. Trealaw. DRAMA GREFYDDOL I SEION Y DAETH GWAREDYDD, sef Cyfiwyniad o Ddrama'r Geni, gan Gwynfryn Richards. Cyfres Dramâu Crefyddol: I. Undeb Cymru Fydd a Llyfrau'r Castell, Caerdydd. 1947. 1/3. Gwaith anodd oedd llunio hon. Canwyd yr hen arwrgerddi er mwyn eu hadrodd, nofelau mwyn eu darllen, eithr am y ddrama, bwriadwyd hi i'w chyflwyno gan actorion a gynrychiola neu efelychu gymeriadau mawr yr hanes, a rhennir yr hanes a'r dialog rhyngddynt. Drama yw hon sydd ar ei phen ei hun ymh.ith dramâu Cymru. Y mae ei thestun yn s:cr o fod yn un o'r pethau mwyaf cyfar- wydd i'r werin Gymreig, eithr ei gael ar ffurf drama fel hyn yw'r eithriad. Yr oedd y Cymro gynt yn mynd i'r capel neu'r eglwys ac yr oedd ei ddigon ef ym myd y ddrama yn y ddau Ie hyn. Rhyw fath o ddramâu oedd llawer o'r hen bregethau: Christmas Evans yn pregethu ar 'Awn Hyd Bethlehem'-a beth yn fwy dramatig, neu Hiraethog yn pregethu ar 'Y Tri Llanc,' neu 'Y Ddalfa Bysgod' ac yn darlunio'r pysgod yn holi: "Ble mae cwch Simon Pedr?" Hawdd fyddai sôn am eraill a feddai'r ddawn ddramatig hon. Y mae iaith y ddrama hon, pe dim ond hynny, yn ei gosod ar ei phen ei hun. Ni cheir yma iaith lafar heddiw nac iaith y mae ei hymadroddion a'i hidiomau yn Saesnig. Horeb, Llandysul, Neu os mynnwch dyma'r bastai, ag ynddi'r pedwar-deryn-du-ar-hugain, i foddio taflod genau breriin. Ond peidiwch â dychmygu mai "drama gymdeithasol" i feirniádu na sefydliad na thylwyth nac unigolyn yw. Nid pobiad o fara ond marsipan mewn ffigyrau lledrith yw 'Tarfu'r C'lomennod.' Ac ni welaf i fod ffordd i sgrifennu arni ond trwy gymysgu ffigyrau driphlith-drafflith. J. KITCHENER DAVIES Iaith y Beibl sydd yma, ac y mae llawer o hon yn ddieithr i'r werin heddiw. Nid ar chwarae bach y gellir ymadroddi'r ddrama hon; bydd yn rhaid wrth ymarferiad dyfal a phoenus i lawer a fydd eisiau ei chwarae. Ceir yng ngenau ambell gymeriad sydd ynddi ambell frawddeg sy'n orgyfoethog ei hystyr, megis: "Cyfie, ac nid coron, yw pob gwir anrhydedd," neu megis: "Syniadau annelwig sy'n gwrthod cymryd pryd a gwedd"; hefyd adgyfodi hen ymadroddion Cymraeg, megis: "Achub y blaen ar amser." Llwyddodd yr awdur i wneud Mair yn gym- eriad, ie, yn arwres, ac y mae'r cyferbyniad (os priodol y gair) sydd rhyngddi ac Ann, ei mam, yn fyw a thrawiadol iawn; y mae yn cadw ei lle yn anrhydeddus trwy'r chwarae i gyd. Cawn awyrgylch y wlad gan y bugeil- iaid a chawn hwy yn nhawelwch y bryniau yn disgwyl am y goíeuni mawr. Gorffenna'r ddrama, disgyn y llen mewn distawrwydd urddasol, teilwng o'r arwr mawr ei hun: "ni ddyrchafa ac ni waedda." Gwell gennym feddwl am chwarae hon mewn capel neu eglwys nag mewn neuadd. TOM DAVIES