Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA HANES I NEITHIOR, gan D. Matthew Williams. Drama hanes un act. Gwasg Aberystwyth, 1947. Tt. 20. Y mae trefn dda ar y ddrama fechan hon, ac y mae'r iaith a'r rhediad yn ddigon gwas- anaethgar. Neithior deuddyn ifanc o Ang- hydffurfwyr yw'r neithior a nodir yn y teitl, deuddyn sydd yn barod i herio'r farn gy- hoeddus a chyfraith y wlad trwy briodi mewn gwasanaeth a weinyddir gan Stephen Hughes, yr arweinydd Anghydffurfiol adeg yr erledig- aeth ar ôl yr Adferiad. Er bod yr awdur yn cydymdeimlo â'r rhain, mae'n barod i goll- farnu agwedd y Pwritaniaid at bleserau cym- deithasol ac i ochri gyda chrefyddwyr yr Eg- Lwys Sefydledig yn eu hoffter at hen arferion. DRAMA I BLANT CYFRES DRAMAU BYRION I BLANT, Llyfrau I a II. Llyfrau'r Castell, Caerdydd. Prisiau: Llyfr I 2/ Llyfr II 2/6d. Dyma'r ddau gasgliad cyntaf o'r dramâu byrion ar gyfer plant a fu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Miss Cassie Dav- ies, M.A., oedd y beirniad, ac amcan y gystad- leuaeth oedd cael defnydd dramatig, seiliedig ár chwedloniaeth neu fywyd Cymru mewn unrhyw gyfnod, a fyddai'n addas ar gyfer plant yn yr ysgolion elfennol. Prin iawn yw'r dramâu plant yng Nghymru, a diolchwn i'r Eisteddfod am drefnu ffordd i gyflawni'r angen. Ceir deg drama yn y ddau lyfryn hyn-pump yn Llyfr I gan J. D. Miller, a phump yn Llyfr II gan Elizabeth Watkin Jones. Yn ddiau, mae gan y ddau awdur ddawn i ysgrif- ennu ar gyfer plant. Ond i lwyddo mewn dramâu plant rhaid hefyd wrth ddawn y Nid yw'r dehongliad na'r feirniadaeth ar eg- wyddogion y naill ochr na'r llall yn newydd nac yn nodedig o dreiddgar, ond y mae ysbryd y gwaith yn deg ac yn rhadlon. Mae rhai o'r manylion yn wan. Er enghraifft, rhoddir ar ddeall inni nad dyn sydd yn gwgu ar bleserau dihiwed yw Hughes, ac eto y mae Guto, hen wr sydd yn gyfarwydd â'i ddysgeidiaeth, yn hanner ofni cerydd oddi wrtho am ganu hen ddawns Gymreig ar ei ffidil. Eithr canmol- adwy yw pob cynnig teg i gyfleu hanes Cymru ar ffurf drama, ac y mae hon yn ddrama gryno a destlus a theilwng o'r llwyfan. D.A. dramaydd, neu, 0 leiaf, wybodaeth o'i grefft. Gwelir ar unwaith nad yw'r awduron yn brin o hyn chwaith. Mae'r naill ddawn cyn bwysiced â'r llall mewn dramâu i blant, ac er bod tuedd i un reoli'r llall yn awr ac yn y man, fe lwyddwyd gan amlaf i gadw'r cyd- bwysedd angenrheidiol, ac o'r herwydd mae cyffyrddiad artistig yn amryw o'r golygfeydd. Dramâu ar gyfer yn hytrach nag am blant yw pob un o'r deg. Mewn un yn unig y ceir plant fel cymeriadau yn y ddrama, sef yn 'Dial y Tylwyth Teg' Elizabeth Watkin Jones. Ar wahan i hyn, brenhinoedd, tywysogion,- arglwyddi, dewiniaid, pobl gyffredin a'r Tyl- wyth Teg yw'r cymeriadau. Ar chwedloniaeth y seiliwyd naw ohonynt.