Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RANDIBW, gan Eic Davies. Llyfrau'r Castell, 1947. Tt. 23. 1/3. Ffars fywiog i blant yw hon, a'r ddeialog yn chwim ac.yn brysur. Direidi noeth sydd yma, a'r hogiau direidus-Dic y bachgen ar- weingar a deallus a Ben sydd yn llai call o lawer-yn gwbl amddifad o rai o'r rhinwedd- GWLEIDYDDIAETH MANIFFESTO'R BLAID GOMIWNYDDOL, gan Karl Marx a Friedrich Engels. Tros- wyd gan W. J. Rees, gyda rhagair gan Idris Cox. Pwyllgor Cymreig y Blaid Gom- iwnyddol, Caerdydd. 1948. Tt. 48. 1/ (Argraffiad cyntaf Chwefror 1848). Profiad cyffrous yn wyneb canrif o hanes gwleidyddol yw cael darllen y Maniffesto Gomwnyddol yn Gymraeg. Gwnaeth Mr. W. J. Rees, o Goleg Lincoln, Rhydychen, waith da gyda'r cyfieithu. Llwyddodd i adgyn- hyrchu, gan mwyaf, yr arddull fawreddog, broffwydol sy'n gwneud y MANIFFESTO yn ddogfen na eill neb omedd iddi ei harbenig- rwydd llenyddol, beth bynnag am wreiddiol- deb ei neges. Y mae'r paragra$au a ymesyd ar y bwrgeiswyr, fel gwaeau Crist yn erbyn y Phariseaid, yn dangos yr arddull ar ei gorau. A dyma enghraifft yn nhrosiad Mr. Rees: "Y mae'r bwrgeiswyr, lle yr enillasant reolaeth, wedi dileu pob perthynas ffiwdal, batriarchaidd, ac eidylaidd. Heb unrhyw drugaredd, torasant yn rubanau (sic) yr amrywiol rwymau ffiwdalaidd a glymai ddynion wrth eu 'meistri naturiol,' ac ni adawsant rhwng dyn a dyn unrhyw rwym- yn ond hunanfudd noeth, 'rhwymyn arian parod' calongaled. Ganddynt hwy fe foddwyd gorfoledd dwyfol pob tân cref- yddol, pob brwdfrydedd gwrol, a phob sentimentaliaeth philistaidd, yn nyfroedd rhewllyd cyfrifon masnachol hunanol. Troesant urddas y person yn werth cyf- newid, ac yn lle'r rhyddfreintiau breniniol, haeddiannol dirif, sefydlasant un rhyddid, au a glodforir yn yr Ysgol Sul. Ond er nad "Arweinydd y Bachgen Ifanc i'r Nefoedd" mo'r ddrama, hawdd gennyf gredu y gall ddeff- ro digon. o chwerthin iach ym moliau cynull- eidfa o'r iawn ryw. D.A. sef rhyddid masnach digydwybod. Mewn gair, yn lle dull o ecsploitio a wyngalch- wyd gan hud a lledrith gwleidyddiaeth a chrefydd, sefydlasant ddull' agored, union- gyrchol, noeth a digwilydd." (t.21). Yma ychwanegir at huodledd y dull gan wirionedd y mater. Nid oedd Marx yn ddeg ar hugain pan ysgrifennodd y MANIFFESTO yn Brussels gyda chynhorthwy Engels. Bu'n rhaid iddo adael yr Almaen a Ffrainc fel ffoadur gwleid- yddol', ac yr oedd y Belgiaid hefyd am gyfyngu ar ei weithgarwch politicaidd. Yn y cyfnod hwn ac wedi hynny, pan oedd yn ffoadur yn Lloegr, dangosodd Marx "frwdfrydedd gwrol" dros ei argyhoeddiadau. Gwneir ymdrech heddiw, o dan ysgogiad y paratoadau am ryfel yn erbyn Rwsia'r Sofiet, i arddangos Marx fel cnaf hunanol a cnwerw, y "Prwsiad Coch" a geisiai awdurdod ac arglwyddiaeth. Ffolineb plentynnaidd yw ymagwedd fel hon. Wedi'r cyfan, addefir iddo fod yn eithriadol o alluog. Os felly, oni ddylai doethineb bydol fod wedi ei gyfeirio i feysydd mwy proffidiol na bywyd tenau a llwm ar ymylon cymdeithas ei ddydd? Beth bynnag a farnwn am ei gredoau, yr oedd Marx yn llinach wirioneddol y proffwydi. Arloeswr di-hunan ydoedd, ac ni ellir ond rhyfeddu at y ffydd a ddangosodd