Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar weithiau Stalin. Wele un mwy na Marx, y mae'n debyg. Ymddengys, yn ôl yr ymdrin- iaeth hon, fod y Blaid Gomwnyddol yn cefnogi rhyddid ffedral i Gymru, am y rheswm fod y mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn adweith- iol, tro bo yn Lloegr genedl sydd yn flaengar. Nid wyf, mi gredaf ,yn cam-ddehongli tt. 17-18 wrth eu crynhoi fel hyn. Y mae'r genedl lywodraethol, sef Lloegr, "ar drothwy chwyl- dro proletaraidd. Ffwlbri ffantastig yw siarad fel hyn. Ond edrychwn eto ar y MANIFFESTO. Os gellir canmol ei ddadansoddiad, nid felly ei feddyginiaeth. Sonnir am ddymchwel "trwy rym" y gyfundrefn gyfalafol. Cafodd y geiriau hyn ddylanwad aruthrol, ond er disgleiried rhai llwyddiannau cyflym, dyma un o drych- inebau'r MANIFFESTO. Eto, sonnir am "unbennaeth wleidyddol" y proletariat, ac am drosglwyddo i'w llywodraeth ganolog all- uoedd diderfyn. Edrychir ymlaen at ddiflan- iad yr unbennaeth yma. "Yn lle'r hen gym- deithas gyda'i dosbarthiadau a'i brwydrau Y DRYDEDD FFORDD, gan Wilfred Wellock. Cyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg gan Blaid Genedlaethol Cymru. 1/ Fel y dywed Gwynfor Evans yn ei ragair, nid yw Wilfred Wellock yn ddieithryn i Gymru a'i mudiad cenedlaethol. Gellir ych- wanegu y bydd pawb sy'n hyddysg yn llenydd- iaeth y mudiad cenedlaethol Cymreig, neu yng ngweithiau cymdeithasegwyr Cristnogol o bob gwlad, yn gyfarwydd â syniadau Wellock a'r safbwynt a gymerir ganddo yn y llyfryn hwn. Rhydd inni ddadansoddiad cywir o enbyd- rwydd sefyllfa bresennol Prydain Fawr a pher- yglon ei gwleidyddiaeth hi, a chais ddangos pa fodd y gellir adeiladu cyfundrefn wl'eidyddol a chymdeithasol ar sylfeini mwy diogel nag ymerodroldeb a diwydiannaeth gwladwriaeth ganolog. Maentumia'r awdur na ddaw ond distryw materol a moesol i Brydain os nad ymwrthyd â'r hen ymgiprys am farchnadoedd tramor a'r traddodiad milwrol ac ymerodrol sy'n gefn dosbarth, fe ymgyfyd cymdeithas lle y bydd datblygiad rhydd yr unigolyn yn sylfaen dat- blygiad rhydd i bawb." Ni welodd Marx bwysigrwydd y cyfryngau a'r dulliau. Ni welodd fod defnyddio grym dros dro a sefydlu unbennaeth dros dro yn rhwym o ddifodi'r posibiliadau gwell. Ac y mae'r gorseddu ar y wladwriaeth ganolog mor drychinebus yn economaidd ag ydyw yn wleidyddol. Ebr Marx yn ffyddiog, "Fe ddefnyddia'r proletar- iat ei unbennaeth wleidyddol i ddwyn oddi ar y bwrgeisiaid o dipyn i beth eu holl gyfalaf, i ganoli'r moddion cynhyrchu yn nwylo'r wlad- wriaeth-hynny yw, y proletariat a ddyrch- afwyd yn ddosbarth lIywodraethol-ae i gyn- yddu maint y galluoedd cynhyrchu cyn gyflymed ag y bo'n bosibl." Mabwysiadwyd prif bwyslais y geiriau hyn gan Sosialaeth wladwriaethol yn ei gwahanol ffurfiau. A dyma yn ddiau ffiloreg fwyaf y MANIFFESTO. Arweiniodd at gaethiwo'r proitetariat o dan feistri newyddion. Bakunin, ac nid Marx, oedd yn iawn. J.G.G. iddo. Rhaid sylweddoli fod diflaniad ymer- odroldeb Seisnig yn un o ganlyniadau anoch- eladwy datblygiadau diwydiannol y gwledydd tramor a fu gynt yn cynhyrchu nwyddau crai, a dau ryfel byd y ganrif hon. Erbyn hyn, y mae'n rhaid i Brydain chwilio am Drydedd Ffordd. Trwy gerdded y ffordd newydd hon gail osgoi'r perygl o gael ei thynnu i mewn, oherwydd ansicrwydd a gwendid ei sefyllfa economaidd, i'r ymryson rhwng Rwsia ac Unol Daleithiau'r Amerig, a hefyd roddi ar- weiniad moesol i'r byd, gan geisio datrys y problemau a gyfyd o'r ddiwydiannaeth beir- iannol sy'n nodweddiadol o gyfundrefn econo- maidd Gallu ymerodrol modern. Cyhoeddir gan arweinwyr y Llywodraeth Seisnig bresennol mai eu Sosialaeth ddemocrat- aidd hwy yw'r "Drydedd Ffordd" rhwng Com- wnyddiaeth Rwsia a Chyfalafiaeth yr Amerig.