Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Haerant mai eu dysgeidiaeth gymdeithasol hwy a ddwg iachawdwriaeth i fyd a wynebir gan dotalitariaeth ac anghyfiawnder economaidd. Ond dengys Wilfred Wellock eu bod hwythau yn mabwysiadu dulliau'r ymerodrolwyr, ac, felly, yn arwain gwledydd Prydain i dotalitar- iaeth. Bradychir holl ddelfrydau Sosialaeth ddemocrataidd gan y Llywodraeth hon. Gof- ynnir i bobloedd Prydain gynnal lluoedd ar- fog mawr ac aberthu angenrheidiau bywyd er mwyn llwyddiant yr ymgyrch allforio. Gosod- wyd gorfodaeth filwrol ar ddynion ifainc, ac y mae'r galluoedd i ddefnyddio gorfodaeth ddi- wydiannol eisoes yn nwylo'r Llywodraeth. Erys safle'r gweithiwr mewn diwydiant yr un o dan y Wladwriaeth Sosialaidd hon â chynt. Ni all yr awdur dderbyn honiadau Attlee a Chripps a Bevin felly. Dymuna weld "Pryd- ain" yn manteisio ar ei chyfle euraid i roi ar- weiniad moesol i'r byd trwy ymwrthod â gwerthoedd a threfn economaidd y Chwyldro Diwydiannol a rhoi mwy o werth ar bersonol- iaeth yr unigolyn nag ar oruchafiaeth fas- nachol a dylanwad a bri ym mhellafoedd y byd. Dylid sefydlu'r gyfundrefn economaidd ar sylfeini amaethyddol a datganoli diwydiant ac awdurdod gwleidyddol. Dylid ail-adeiladu gwareiddiad ar sylfaen "gwerthoedd creadigol a chymdeithasol yr Efengyl Gristnogol." Di- flanna gwáreiddiad y Gorllewin oni ellir creu cymdeithas Gristnogol, a sicrhau poblogaeth iach a sefydlog trwy ddatganoli diwydiant a ffurfio cyfundrefn amaethyddol seiliedig ar ffermydd bychain teuluol." Er ei fod yn siarad yn nhermau "gwleid- yddiaeth Brydeinig" pwysleisia'r awdur fod rhoi rhyddid gwleidyddol i Gymru a'r Alban Aberystwyth. LLYFRAU PLANT Y FILLTIR GYNTAF, gan W. D. a H. J. Thomas. Llyfrau'r Castell (Cyfres Coedybrain) Rhan I. Dim ond athrawon sy'n rhygnu arni i ddysgu Cymraeg i blant fel ail iaith a eill wir werth- fawrogi'r gyfres yma. Dim ond hwy hefyd a yn angenrheidiol. A dyfynnu ei eiriau ei hun, "Daeth rhyddid i Gymru a Sgotland yn angen- rhaid ysbrydol, a hynny nid er eu lles eu hun- ain yn unig, ond er mwyn iachawdwriaeth Lloegr hefyd." Dengys y frawddeg honno gys- tal â'r un arall yn y llyfryn gymaint y gwa- haniaeth rhwng ei agwedd ef ac agwedd y rhan fwyaf o feddylwyr cymdeithasol a gwleidyddol yn Lloegr. Byddai rhagolygon y genedl Gym- reig yn loywach, yn ddiamau, pe gallai Wilfred Wellock a heddychwyr a "datganolwyr" er- aill Lloegr Iwyddo i chwyldroi cyfundrefn gym- deithasol eu gwlad fel y dymunent. Ond ych- ydig fydd eu dylanwad ar fywyd Lloegr hyd oni chânt gyfrwng gwleidyddol effeithiol a chynlluniau economaidd manwl. Camgymer- iad costus inni yng Nghymru fyddai dibynnu ar eu llwyddiant hwy am ein hiachawdwr- iaeth. Rhaid dwyn ar gof bob amser y bwysicaf o wirebau cenedlaetholdeb Cymreig, mai ar ymdrechion y Cymry eu hunain y dibynna dyfodol Cymru. Eto i gyd, y mae'n galon- ogol gwybod bod rhai o feddylwyr adnabyddus Lloegr yn synied yn wrthrychol ac yn onest am sefyllfa eu gwlad, ac am ei lle yn y byd yn y dyfodol, er gwaethaf yr holl siarad anghyf- rifol am adfer bri a safle "Prydain" ym mas- nach a gwleidyddiaeth ryngwladol. Sonia hyd yn oed y Comwnyddion Seisnig am "Brydain gref, annibynnol" y dyddiau hyn. Teg yw canmol y Blaid Genedlaethol am gyhoeddi'r llyfryn hwn os bydd yn gymorth i fagu'r ym- wybyddiaeth wleidyddol annibynnol sy'n an- hepgor i'r genedl Gymreig, os yw hi i oroesi argyfwng presennol Gwareiddiad y Gorllewin. Dylid ychwanegu bod amryw wallau iaith, orgraff ac argraffu yn y cyfieithiad Cymraeg o'r llyfryn. HUW DAFIS. wyr gymaint ò angen sydd am lyfr tebyg idd- ynt. Y mae dysgu unrhyw iaith newydd yn gol-