Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ygu adeiladu pob gwers newydd ar y wers a roddwyd o'i blaen. Ni ellir fforddio anghofio heddiw na cholli gafael ar ddim a ddysgwyd ddoe. Y mae y llyfr hwn felly yn help am- hrisiadwy i'r plant a'r athro gadw'r llinynnau ynghyd wrth fwrw ymlaen; ac yn gwneud y gwaith o adolygu gwersi'r tymor dipyn yn haws na phe byddid hebddynt. Mewn llyfrau fel hyn eto, y mae darluniau yn ^ymorth mawr i blant, a cheir yma ddar- luniau syml clir i daro'r testun bob cam. Sylwais ar y ffurf 'maen nhw'; nis gwelais Brynaman. CYFAILL MAWR Y PLANT. Cyfaddaswyd gan E. Curig Davies gyda chydweithrediad A. B. Shaw, 3 Creed Lane, Ludgate Hill, Llundain, E.C. 4. Llyfrfa'r Annibynwyr Cym- raeg, Abertawe. 5/ Cynnwys y llyfr hwn 24 0 benodau ar hanes bywyd Iesu Grist. Ceir darlun ar gyfer pob pennod. Adroddir am y geni ym Methlehem, y ffoi i'r Aifft, ac y mae penodau ar y gwyrth- iau a'r damhegion. Ar y diwedd ceir hanes Crist yng ngardd Gethsemane a disgrifiad o'r Croeshoeliad a'r Atgyfodiad. Ar ddiwedd y gwahanol benodau ceir gweddîau byrion. Mae'r iaith yn syml a'r penodau yn fyr. Yn wir, mae'r cyfan yn hynod o addas i blant ieuainc hyd at ryw ddeg oed. Eglurir y dam- hegion a'r gwyrthiau yn neilltuol o dda, ac aeth yr awdur i drafferth i osod y gwirion- eddau mewn ffordd ddeniadol a di-ddryswch fel y gall plant eu deall yn hawdd. Er hynny, erys geiriau fel "gras" a "maddeuant' yn rhai anodd eu hesbonio i blant. Dyma gynnig gwirioneddol dda i gyflwyno Efengyl Iesu Grist i rai bychain. Ar yr un pryd, nid oes dim gwreiddiol yn y penodau, Ysgol Gynradd Glanrafon, Corwen. «GWLEIDYDDIAETH A CHELFYDDYD' (Y llinellau a gyfeirir atynt ar tud. 16 o'r rhifyn hwn). "Dormi, Italia imbriaca, e non ti pesa Ch'ora di questa gente, ora di quella Che già serva ti fu, sei fatta ancella." (Orlando Furioso, XVII). o'r blaen; tueddaf i amau a ydyw'n fwy o gym- orth i'r newyddian na'r ffurf llawn 'y maent hwy,' er y cytunaf ei fod yn nes i'r ymadrodd lafar os hynny yw'r egwyddor. Sylwais hefyd ar "Rwyn.' Pam un atalnod heb y lleill? Y mae'n siWr y bydd y llyfrau yma 'n gal- ondid ac ysbrydiaeth i lawer o athrawon crwydrol Caerdydd a chylchoedd eraill cyff- elyb. Diolchwn i Mr. W. D. T. a H. J. T. am fod gymaint o ddifrif â'u gwaith fel ag i gy- hoeddi'r gyfres yma a chyfrannu i eraill o ffrwyth eu profiad a'u llafur. (Mrs.) E. GERALLT JONES. a gwerth mwyaf y llyfr yw ei ddarluniau. Mae pob un ohonynt yn gampwaith, ac ych- wanegant yn fawr at werth atyniadol y llyfr. Os caf neilltuo tri fel rhai sy'n arbennig o glodwiw, y rhai a ganlyn ydynt: "Myfi yw yv Drws", "Y Ddafad Golledig", "Y Croeshoel- iad." Dyma gyfrol o'r math y bu hir ddisgwyl amdani. Dylai gymryd ei lle ar silffoedd ein festrioedd a llyfrgelloedd plant ymhobman. Gobeithio y disodla y llyfrau diflas hynny sy'n gwneud parot o'r plentyn. Yn rhy aml ni bydd y plentyn wrth ddilyn cyfundrefn o'r fath yn gwybod fawr o ddim am ystyr yr hyn a ail-edrydd. Ceir ambell gam-argraffiad megis "drwg" yn lle "dwg" ar dud. 38. Ond haedda'r Parch. E. Curig Davies glod mawr am sicrhau llyfr fel hwn i blant Cymru. STEPHEN E. DAVIES. "Cysgu yr wyt, Eidal frwysg, ac nid yw iti'n faich dy wneuthur yn llawforwyn, yn awr i'r bóbl yma, yn awr i'r bobl acw a fu unwaith yn gweini arnat ti,"