Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OLWEN LLEWELYN WALTERS Priod. Mr. D. Llewelyn Walters, Caerdydd, a chyn-ysgrifennydd i'r Dr. W. J. Gruffydd. Enillodd droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am storïau a nofelau. Yn ddiweddar cyhoeddodd gasgliad o storiau byrión gan amryw awduron. (O'R NEWYDD o Wasg y Castell, Caerdydd). T. GWYNFOR GRIFFITH Brodor o Gilffriw, Nedd. Bu'n efrydu Ffrangeg ac Eidaleg yng Ngholeg y Fren- hines, Rhydychen, ac y mae yno ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil ar agwedd o lenyddiaeth yr Eidal. W. V. HIGHAM Athro yng Nghaerdydd. Bu'n amlwg gydag Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, ac ef yw Ysgrifennydd Cangen Caerdydd o'r Blaid Genedlaethol. HESGIN Sef Mr. Thomas Owen, 58 Dunraven Road, Sgeti, Abertawe. Cymerodd yr enw "Hesgin" oddi wrth Cwm Hesgin, Cwmtirmynach, ger y Bala, ei hen gartref. T. I. ELLIS Sef, wrth gwrs, Ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd, Aberystwyth. ITHEL DAVIES Abertawe. Bargyfreithiwr, ac aelod blaenllaw o'r Blaid Genedlaethol. J. HUW ANWYL Mab i Mr. J. Emrys Anwyl, y gwenynwr enwog. Bu Huw Anwyl yn Ysgol Ram- adeg y Bala, ac yn Llandderfel y mae ei gartref. COLEG PRIFATHROFAOL ABERTAWE Dechreuir gwaith y Coleg am y nawfed flwyddyn ar hugain Hydref 5, 1948 UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU Paratoir ar gyfer: (a) Graddau Prifysgol Cymru yn y Celfyddydau, mewn Gwyddoniaeth, Meteleg, a Pheirianneg. (b) Dysgu athrawon ysgol elfennol ac ysgol ganolradd. (c) Arholiad meddygol cyntaf Prifysgol Cymru. (d) Blwyddyn gyntaf y cwrs ar gyfer gradd Baglor mewn Pensaern- iaeth ym Mhrifysgol Cymru. (e) Rhan ddechreuol y cwrs astudiaeth ar gyfer gradd Baglor mewn Fferylleg ym Mhrifysgol Cymru. (f) Cwrs Diploma yn Arweinyddiaeth a Threfniant Ieuenctid. (g) Cwrs Diploma mewn Gwybodau Cymdeithasol. Cydnabyddir cyrsiau'r Coleg mewn Gwyddoniaeth fel blwyddyn gyntaf cwrs meddygol gan nifer o gorfforoedd sy'n trwyddedu meddygon Cynigir ysgoloriaethau yn Ebrill bob blwyddyn Ceir manylion pellach gan Y COFRESTRYDD, COLEG Y BRIFYSGOL, PARC SINGLETON, ABERTAWE