Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADÀU GOLYGYDDOL CYFLOGAU GWEINIDOGION Yn ddiweddar pennodd Undeb y Bedyddwyr Cymreig leiafswm cyflog i weinidogion yr enwad o bum punt yr wythnos. Bu enwadau eraill yng Nghymru hefyd yn fyw iawn i'r angen am sicrhau gwell amodau byw i'w gweinidogion. Cododd costau byw yn uchel ers blynyddóedd bellach, ac mae'n hysbys ddigon mai'r gweinidogion yw'r bobl olaf i gael ychwanegiad yn eu cyflogau. Medd bron pob dos- barth arall o weithwyr eu hundebau llafur a fydd yn ymladd am gyflogau i'w haelodau i ateb gofynion costau byw, ond mae'n rhaid i'r gweinidogion ddibynnu'n llwyr, yn y pen draw, ar ewyllys da aelodau'r eglwysi. Yn wir, credwn fod llawer gweinidog çydwybodol yn gorfod dioddef yn ddistaw y dyddiau hyn. O'i chymharu â galwedigaethau eraill, megis gwaith athrawon ysgol sy'n derbyn cyflogau anrhydeddus ar law y wladwriaeth, o'r braidd y gellir dweud fod y weinidog- aeth yn swydd ddeniadol i unrhyw fachgen ifanc heddiw. Dichon y gall gweinidog dawnus ennill ei wala'n iawn, talu ei rent a'r yswiriant gorfod, magu ei deulu'n deil- wng, prynu'r llyfrau sy'n angenrheidiol iddo fel pregethwr a meithrin ymarweddiad yncydweddu.â/ialwad, ondnidyw rhagolygon y gweinidog hwnnw sy'n llai ei freint- iau yn rhyw liwus iawn, yn siwr. Mae'n ddiamau nad er mwyn gwneud arian yr â neb i'r weinidogaeth; ni chlywsom fod ffortiwn yn y gwaith hyd yn oed i'r galluocaf. Eto, ni ddylai pryder byw ac ym- gynnal yn anrhydeddus daflu ei gysgod ar waith yr un gweinidog i'w lesteirlo. Diau fod cynhaliaeth gweinidogion yr Efengyl yn un o broblemau dwysaf ein cen- hedlaeth ni yng Nghymru, ac mae'n anodd gwybod pa fodd y gall yr enwadau ei dat- rys ar wahan i ryw gynllun o uno â'i gilydd, ac felly arbed llawer o'r gwario diang- enrhaid sydd ynglyn ag enwadau niferus a lluosogrwydd capeli lie nad oes angen am gynifer ohonynt. Pa fodd bynnag, mae'n gwbl sicr nad yw lleiafswm cyflog o bum.punt yr wythnos yn ddigon i symud baich pryder byw oddi ar ysgwyddau gweinidog yr Efengyl yn y dyddiau anodd hyn. E.B.