Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU GOLYGYDDOL Y MUDIAD LLAFUR YNG NGHYMRU Ni ddichon neb sydd yn caru cyfiawnder cymdeithasol ddarllen am flynyddoedd cynnar y Mudiad Llafur yng Nghymru (nac yn Lloegr a'r Alban, o ran hynny) heb gyd- ymdeimlad â'r ddelfrydiaeth a lanwai fryd ei arweinwyr gorau. Mudiad ydoedd i ddin- istrio gormes a phorthi'r anghenus, i ddwyn addysg i gyrraedd y lliaws a sefydlu hedd- wch a chyd-ddealltwriaeth ymysg gwerinoedd y byd. Cwbl annheg fyddai dweud mai cymhellion materolaidd a hunangeisiol yn unig a oedd y tu ôl i frwydr y gweithwyr am gynhaliaeth deilwng a chyfleusterau teg. Yr oedd dynion fel Keir Hardie'n brwydro dros werthoedd ysbrydol. Eithr ni ellir amau, chwaith, i'r mudiad newid ci gwrs dan ddylanwad arweinwyr eraill a oedd yn gwrthod ffydd Hardie neu'n methu deall ci hystyr yn y maes gwleid- yddol ac economaidd. Yn lle ceisio creu cymdeithas iach o gydwcithwyr cyfrifol dew- iswyd ffordd fer o ddinistrio gallu economaidd y cyfoethogion trwy roi di\wdiant dan reolaeth y wladwriaeth. Ymwrthodwyd â rhyddid a chyfrifoldeb er mwyn ennill y Rhyfel Dosbarth yn gyflym a chyfoethogi'r proletariat diwydiannol. Yng Nghymru cymerwyd y cam olaf i'r cyfeiriad trychinebus hwn pan benderfynodd gweithw\r glo- faol Dê Cymru aberthu eu hunanaeth undebol eu hunain. Trwy eu hysbryd beiddgar a'u hymroddgarwch i'r achos bu gweithwyr Cymru bob amser yn y rhengoedd blaenaf ymhob bwydr; ac y mae'n amlwg na chollwyd eu rhin- weddau fel ymladdwyr hyd yn oed yn y dyddiau hyn, pryd y mae'r Llywodraeth yn cymryd lle'r cyfalafwyr fel meistr y gweithwyr. Ond fel meistr y mae Llywodraeth gwlad yn llawer mwy nerthol na llu o gyfalafwyr, ac fel gormeswr gall fod yn llawer mwy trwyadl. Os dengys gweithwyr Dê Cymru eu hen fywiogrwydd annibynnol nid yw'n debyg y bydd y Llywodraeth yn dueddol i'w oddef yn hir. Y canlyniad fydd chwalu'r traddodiad ymladdgar yn ardaloedd.glofaol ein gwlad trwy chwalu'r gweith- wyr; a hwyrach na ellir deall yr holl sôn am gau pyllau glo Dé Cymru heh dybio bod rhai o gynghorwyr y Llywodraeth yn dymuno gwneud hyn. Sut bynnag, rhaid i weithwyr diwydiannol Cymru wrthwynebu pob ymgais i'w di- wreiddio a'u trawsblannu; rhaid iddynt sylweddoli eu bod yn rhan o'r genedl Gymreig. Mae eu menter a'u dygnwch yn rhan o'n treitadaeth gencdlaethol. D.A.