Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Doctor Lias Gan A. H. EDWARDS rBED a feddyliasoch erioed mor I bwysig yw'r elten bersonol mewn galwedigaeth. Gall offeiriad diwyd fod yn foddion i arwain dyn hyd a,t byrth y nefoedd. Gall meddyg anwybodus es- geulus ei wthio ef trwy'r pyrth hynny lawer cynt nag a ddisgwyliai. Ers talwm dibynnai ein tynged dan law meddyg, i raddau, ar amgylchiadau daearyddol. Erbyn heddiw diddymwyd bron yn llwyr y gwahaniaeth rhwng meddyg gwlad a meddyg tref. Gallech yn rhwydd draws- blannu'r naill i le'r llall heb iddynt ym- deimlo nemor ddim â dieithrwch. Nid felly yr oedd gan mlynedd yn ôl. Ymhlith y rhai a dramwyasai hyd ffyrdd lleidiog y wlad efallai nad oedd dosbarth mwy ffraeth a byw na'r hen feddygon. Yr oedd eu pennau'n gwyro beunydd i ymglywed â thipiadau calon y werin Gymreig. Odid yr oedd bwthyn ym mhellterau y broydd mynyddig na wyddai am ddyfodiad y meddyg dros yr hiniog. Peth cynefin oedd y cerbyd â dwy olwyn fawr, a'r meddyg yn eistedd yn- ddo fel pe gwyddai erioed ei fod yn dilyn un o igrefftau hen ac anrydeddus dynol- ryw. Efallai mai ar daith araf y gwel- ech ef, yn mynd i gysuro hen ŵr a ddi- oddefai oddi wrth "rhywibeth mawr" an- nealladwy; neu dro arall ar garlam gwyllt at erchwyn gwraig ifanc aml-blantog mewn gwewyr esgor. Yn y flwyddyn 1848 ni wyddid ond ychydig am gyffuriau i greu di-deimlad- rwydd. Y flwyddyn cynt bu i ŵr o'r enw Siimpson syrthio'n glap farwaidd mewn parlwr yng Nghaeredin ar ôl an- anadlu tawoh rh}nv gyffur newydd. Cly^wsai'r Doctor Lias am hyn. Aeth ar ei union i Garredin i weld beth oedd yr helynt a dychwelyd i Gwm Aled â photelaid o'r cyffur newydd. Bu cryn igynnwrf ar ôl hyn yn y gwersylloedd diwinyddol. Bu sôn am ddiarddel. Ond cafwyd taw ar y ddadl pan ddaeth y meddyg ei hun i'r seiat a tharanu uwch pennau'r saint: "A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i drwm-gwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o'i asennau ef Ni honnai ef fod y Crewr ei hun wedi defnyddio 'chloroform,' ond llwyddodd i roddi sêl ysgrythurol ,ar yr egwyddor o greu di-deimladrwydd. Ni wawriasai eto oes Lister, a'r cyffuriau i rwystro pya- redd y cnawd briwiedig, y gangrîn di- eflig a wnâi lawer triniaeth lawfeddygol yn ofer. Yr hyn a bair syndod inni ydyw'r ffydd a feddai po.bl mewn meddygon yn yr oes honno. Yr oedd hyd yn oed yr etholed- igion yn barod iawn i geisio cymorth y meddyg er mwyn gohirio'r alwad olaf. Credai trigolion Cwm Aled, pe methai'r Doctor Lias, nad oedd fawr o obaith i'r Hollalluog wneud dim. Ar adegau felly sibrydid â goslef isel ond terfynol: "Ie, ie, fel yna 'roedd hi fod ynte?" Ond gwyddai'r meddyg yn amgenach. Gall meddyg, i bob golwg allanol, gladdu ei gamgymeriadau yn nyfnder pridd dae- ar, ond mewn gwirionedd frynnant â rhyw egni newydd dychrynl]yd yn y gydwybod. Y drwg mawr ym mywyd meddyg gwlad oedd unigrwydd. Pe blinid cydwy- bod y Parch. Ifan Ifans (Annibynwyr) ar bwnc o athrawiaeth, gallai drin a thrafod ei amheuon â'r Parch. Dafydd Dafis (Methodistiaid Calfinaidd). Ond odid di- flannent ym mwyn arogl-darth baco Caer,