Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cydwladoldeb Gan ITHEL DAVIES Igyfeiriad undod a chydweithrediad, mi gredaf *y mae trawd a thuedd gym- deithasol bywyd fel y mae cymdeithas yn datblygu yn fwy a mwy gwerinol. Yng- hanol y sôn cynyddol am gyfundrefnu byd a bywyd a'r ymdrechu at hynny, y mae ar gerdded yr un pryd ymddatod cymdeithasol eang a sylfaenol. Fel y dywed Jacques Maritain y Ffrancwr yn ei lyfr ar hawliau dyn (dyfynnaf o'r cyfieith- iad Saesneg: "The Rights of Man'): "The thwarted progress of humanity moves in the direction of human emanci- pation. not only in the political order but also in the economic and social order, in such a way that the diverse forms of servi- tude which place one man in the service of another for the particular good of the latter and as an organ of the latter, may be abolished by degrees as human history approaches its terms." Yn yr ymddatod cymdeithasol y ceir hyd i sylfeini new- ydd, ac ar y sylfeini newydd hynny ceir cyfuno newydd a gwahanol, gwahanol yn ei ddibenion fel y mae'n wahanol yn ei gymeriad. Yn y cyfnod presennol, pan yw cydwladoldeb yn ymddangos yn ffydd weithredol vn nhrefniadau gwleidyddol ac cconomaidd y gwledydd, pwysleisir hawl- iau cenedlaethol fwy-fwy. Yn yr am- gylchiadau fcl y maent y mae'r ddwv eg- wyddor a'r ddwy duedd yn gwrth-daro â'i gilydd. Y mae'r gwrth-daro'n anochel, nid oherwydd fod cenedlaetholdeb a chyd- wladoldeb yn gwrth-daro. ond oherwydd y ceisir gweithredu cydwladoldeb ar gym- deithas gvdwladol anghenhedlig yn ei chymeriad fel yn ei gwleidyddiaeth, neu, yn fwy cywir, ar unedau gwladwriaethol anghenhedlig. Nid creadigaeth genedlaethol yn ei han- fod ydyw'r wladwriaeth gyfoes. Cod- odd yn bennaf drwy oruchwyliaeth Grym. Cododd un Penadur ac un awdurdod lle bu llawer. Hawdd oedd helaethu tiriog- aethau Penadurol ac Ymerodrol mewn cyfnodau pan oedd ffiniau'n anniffiniedig ac yn ansicr eu hamlinelliad. Dyfod yn gyfoethog ac yn gryf drwy ychwanegu maes at faes ac amlhau deiliaid, yn hytrach na chrynhoi cymdeithas genhedlig oherwydd nawdd iaith a defion cyffredin y bobl, oedd y nod. Damwain ydoedd Lloegr Seisnig a Ffrainc Ffrengig, ac ni pharchai eu rhwysg pendefigol hwy mwy na phendefigaethau eraill genedligrwydd ddim. Diweddar ydyw datblygiad yr ymwybod genedlaethoí. Ni cheisiwyd c\rdnabod yr egwyddor genedlaethol fel sylfaen y gymdeithas wleidyddoI hyd at gytundeb Fersai ar ôl y Rhyfel Byd C}ntaf. Daeth y gwladwriaethau i fod drwy gyfuno unedau llai mewn uned fwy, a daw'r uned genedlaethol i fod drwy'r gweithgarwch gwrth-gyferbyniol yn ym- ddatodiad yr unedau mawr anghenhedlig, fel y gwelwyd yn Ewrop ar ôl y Rhyfel Byd Cvntaf, ac fel y gwelir yr un mor amlwg yn v byd heddiw ar ôl y rhyfel di- wethaf. Erbyn hyn y mae gwahanol gen- hedloedd y byd yn hawlio eu rhyddid i fyw a meithrin eu bywyd cenedlaethol eu hunain. ac y mae'r ymwybod genedlaeth- ol yn prysur ymwthio i'r wyneb yn nhrefn bywyd y byd. Golyga hynny derfyn ar imperialaeth, sef y drefn sydd yn caniatáu fel egwyddor wîadwTÌaethol yr hawl i un wlad osod iau ei hawdurdod ar wlad a phobl arall. Ond, ysy\vaeth, trefn felly sydd wedi bod yn y byd er cychwyn r