Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wrth ritag ar ôl pili pala Odd y bachan yn dishgwl yn smala, Wath mishws i glatshan Dan fonyn cabatshan A chwmpws a thorrws i gôs a. Yn nesaf profwyd effaith byw ynghanol nifer o Gardis darbodus, ac wele'r perl yma yn llifo o'i enau, Wrth dynnu ei llun yr oedd Nano Yn taeru cyn symud o'r fanno Os byddai'n llun da, Cyn diwedd yr ha Fe brynai biano i roi tano. Methwyd a chael yr un caniyniad pan aethpwyd â'r bardd i'r gogledd oherwydd Cemais, Machynlleth YR ENFYS Sydyn ei dyfod Rhwng heulwen a chawod, Ysgawn ac esmwyth Fel gwlithyn ar wawn. Esmwyth a thyner, Fe ddengys ei sblandcr Fel calon y rhosyn Yn wyneb y wawr. Ei sblander godidog Sy goron hin glawiog, Fel gwallt aur amryliw Ar ben tylwyth teg. Yn esmwyth a thyner Diflanna ei sblander Fel rhithiol addewid Ymdawdd yn y nef. fe aeth tro yn ei gynffon, ond llwyddiant mawr fu'r arbrawf ynglyn â dylanwad person. Digwyddodd gwrdd â Rhydwen un bore, ac wedi smocio un o'i sigarets fe ysgrifennodd y caniad a ganlyn: Mae'r byd yn ddu, yn ddu fel inc Heb unrhyw enfys ymyl binc; Yr oes yn plygu fel ymbrelo Yn lle datblygu; mae yn smelo. Mae'r lloer yn feddw caib a'r haul yn winco Ac injin y bydysawd sydd yn pinco; Mae'r byd yn ddu, yn ddu fel inc Heb unrhyw enfys ymyl bine. Gobeithiwn y bydd y darganfyddiadau uchod yn symbyliad i rywun arall ym- chwilio i gymhlethdodau'r beirdd. GLYN DWR DAVIES