Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Syr John Lloyd Gan GLANMOR WILLIAMS GWELL imi gyfaddef ar unwaith nad oes gennyf odid ddim cymwyster- au arbennig i draethu ar waith yr hanes- ydd mawr y bu'r genedl gyfan yn ddi- weddar yn galafu o'i golli. Ni chefais y fraint o eistedd wrth ei draed fel disgybl; ni chyfarfûm ag ef erioed; ni chlywais mohono'n darlithio; ni welais ef hyd yn oed. A phe na bai hynny'n ddigon i'm rhwystro, y mae eraill, cymhwysach o lawer na mi, yn barod wedi ysgrifennu amdano fel dyn, fel cyfaill, ac fel hanes- ydd. Go ryfygus gan hynny, yw i mi ganu clcch wannaidd ar eu hôl. Eto, haerllug neu beidio, efallai ei fod yn eith- af peth i ni dalu teyrnged iddo fel un a ddaeth ddwy genhedlaeth a mwy ar ei ôl "ef, i geisio cynorthwyo rhar o efrydwyr Cymru i ddeall hanes eu gwlad. Mentraf arni felly am fy mod am ddangos gadarn- ed yr ymddengys y seiliau a osododd y pcnsaer mawr i labrwr bach digon di- brofiad sydd wrthi yn awr yn ceisio ad- eiladu rhyw ychydig arnyni. Honnir yn aml na fydd yr undyn yn llwyr werthfawrogi celfyddyd yr artist oni fydd ef ei hun rywbryd wedi ceisio gwneud yr un peth. Dywedir wrthym taw'r rhigymwr clamercog sydd yn cael y blas mwyaf ar lyfnder a chynildeb myn- egiant y bardd, neu mai'r sawl a fu'n rhygnu'r "ymarferiadau pum bys" yn lletchwith ac aflafar sy'n canfod orau nerth ac ysgafnder bysedd y pianydd mawr. Taw beth am hynny, yr wyf yn berffaith siŵr nad oes dim a ddengys feis- trolaeth cyfrolau Syr John yn amlycach na cheisio dysgu hanes Cymru ac ym- chwilio i mewn iddi. Po fwyaf y bydd dyn yn crwydro trwy feysydd y gorffen- nol, mwyaf i gyd y rhyfedda at lendid ei gornel ef o'r winllan lIe nad oes anhrefn yn hagru nac efrau yn llygru. Nid oedd yn hanesydd perffaith, wrth gwrs, ond yr oedd yn hanesydd cyflawn am ei fod yn feistr ar hanfodion ei gelfyddyd,— y deun- ydd, y dehongliad a'r diwyg. O'r braidd y mae angen dweud mai gorchwyl cyntaf yr hanesydd yw casglu gwybodaeth o bob cwr a chornel. Dylid gwyldo, hwyrach, rhag gorfanylder Act- on, gŵr a fu'n casglu mor ddiwyd fel na chafodd egwyl i gyhoeddi nemor ddim o ffrwyth ei wybodaeth syfrdanol. Nid oes llawer heddiw ychwaith, yn barod i ategu barn Bury taw gwyddoniaeth yw hanes— dim mwy, dim llai; ond, serch hynny, gwnaeth y gred honno, er g\vaethaf ei chulni mecanyddol, gymwynas ddirfawr ag astudiaethau hanesyddol. Delfryd mwyafrif haneswyr y wlad hon bellach yw crynhoi'r wybodaeth lawnaf a'i thraf- od yn y modd mwyaf o'nest a diragfarn. Ysgogir hwy i gasglu'r ffeithiau'n gyntaí, ac yna i ddamcaniaethu ar eu sail, yn hytrach na'u gwthio i wely procrusteaidd yr egwyddorion a'r rhagfarnau oedd gan- ddynt rhagllaw. Ni fu neb yn fwy cyd- wybodol yn hel ei ddeunydd crai na Syr John Lloyd. Mynnai dreiddio i'r dirgel- leoedd tywyllaf, dilyn pob trywydd hyd yr eithaf ac erlid pob ysgyfarnog i'wr gwâl. Nodiadau ac atodiadau ei lyírau a ddeng- ys hyn orau; nid oes eisiau ond bwrw gol- wg frysiog drostynt i weld fel y cywasg- wyd iddynt ddiferion mêl oriau o chwilota diflino }mhlith blodau gerddi'r gorffennol. Bu yn ymlwybro ymhlith croniclau C\m- ru am oes gyfan nes iddo gynefino â phob tro a rhigol ar hyd-ddynt; ac nid oedd