Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Colomennod Gan T. LEWIS YR oedd cyffro mawr yn y cytiau colomennod, a'r adar yn cael eu casglu i'r basgedi. Digwyddai hyn mewn rhyw ddwsin o erddi eefn-ty, ond nid yn y rhain yn unig y gwelid cytiau colomennod. Ceid hwy mewn ugeiniau o erddi cefn-tŷ y pentref glofaol, ond y deuddeg hyn oedd ar y blaen am y perch- nogent golomennod buanaf y pentref. Bwriodd Dic olwg manwl dros y bwyd, y dŵr, y modrwyon a'r lebelau. Gwnaeth bopeth â'r fath drylwyredd nes diferu chwys o'i dalcen. Perchid Wil Colomen- nod, oherwydd ei wybodaeth am yr adar, gan gylch eang y byd colomennod. Tra oedd wrth ei waith, cerddai'r adar yn goegaidd, eu plu'n llathru, a'u llygaid bywiog yn anwybyddu'r cyffro o'u cwm- pas. 'Nawr ta, ble ma'r Cochyn?" ymson- iai Dic, a'i lygaid yn pefrio gan ddigrif- wch. 'Roedd e'n meddwl spo bod gytag e ddwrnod yn spâr pan ddeth e'n ôl o Belgiwm, ac aros ar ben y simne, a cholli'r râs i ni." Daliodd Dic yn y gol- omen, ac meddai gan droi at ei gyfaill: "Rho'r deryn glas i miwn yn y cwtsh gyta'i wejan, Wil dyna ti'r hen foi, — weti cel dy slôpo." Parodd i'r aderyn yn ei law gael golwg llawnach ar y disodlwr glas. Cynhyrfodd Cochyn drwyddo ac ysodd i ruthro ar y golomen las. "Ia, ia, rigla di faint a fynni di dyna beth 'rwyt ti'n gel am neud catar freichia o'r simne," danodai Dic gan ddodi'r golomen yn y fasged. Yn y stesion yr oedd yna baratoi gwyllt, a phan gyrhaeddodd y trên ceid pentwr o fasgedi yn barod i'w cludo ar eu siwrnai hirfaith i San Sebastian. Yr oedd y col- omennod i'w rhyddhau am hanner awr wedi deg o'r gloch bore Iau, a byddent adre tua phrynhawn y Sadwrn dilynol. Yn ôl yr amodau rhaid oedd cofrestru amser dychweliad yr adar yn y Llythyr- dy, ac felly yr oedd angen gwasanaeth gwYr cyflym o droed fel Wil Fflach, Bob Milgi a Cywyn Bach. Yr oedd eiliad o bwys aruthr. Bore Sadwrn yr oedd y rhedegwyr yn barod at yr alwad, ac esgidiau ysgafn at y gwaith am eu traed. Taflai cwmnï- oedd bychain pryderas am1 gip-olwg brys- iog ar draws yr wybren. Safai Jac Preis ar ei ben ei hun yn chwilio'r gorwel am ddychweliad ei adar yntau, a Jên ar bont ei ysgwydd. Pob hyn a hyn rhoddai bil- sen o India-corn rhwng ei wefus o gyr- raedd Jên, ac ymestynnai hithau ei gwddf i gymryd y tamaid, a thuchan yn ei glust am ragor. Cbdai Jac un arall i'w geg, a'i symud yn chwareus ar hyd ei wefus allan o gyrraedd yr aderyn. Croes- ai Jên i'w ysgwydd arall i gymryd yr India-corn yn ofalus. Hoffai Jac y gol- omen yn angerddol. Aderyn o bluen wen ydoedd a fagasai eisoes nifer o hedfanwyr buain, a gobeithiai Jac iddi ei ddyrchafu'n uwch eto mewn enwogrwydd ymhlith y bridwyr colomennod. Wrth gwrs, yr oedd Jên wedi ymddeol o'r byd cystadlu, ond ni bu hynny'n ddigon i oeri dim o serch Jac tuag ati. Hoffai'i chwmni yn fwyfwy; sgwrsiai â hi yn hir; ac anwesai hi. Llenwai hithau ei galon yn gyfan- gwbl. Yr oedd wrth ei fodd pan atebai i'w alwad heb fethu byth, ni waeth ai du ai gwyn fyddai ei wyneb. Pan ddychwelai Jac adref o'r Iota tafl-