Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trwy Bedair Sbectol Gan KATE BOSSE-GRIFFITHS MAE'R Galluoedd Gorchfygol weçli rhannu'r Almaen yn bedair rhan, sef taleithiau Prydain, America, Ffrainc, a Rwsia. 'Rwyf wedi derbyn papurau newydd a chyfnodolion o'r pedair talaith hyn. Mae'r hyn sy'n digwydd yn y tal- eithiau i gyd yn debyg iawn: ymdrech sydd o hyd yn erbyn yr anhrefn a etifedd- wyd oddi wrth y Trydydd 'Reich.' Ond ym mhob talaith yr Awdurdod Milwrol sy'n rhoi'r sbectol arbennig i edrych ar bethau. Mae un peth yn gyffredin i'r cylchgron- au i gyd: 'does dim gwreiddiau ganddynt mewn unrhyw draddodiad cadarn. Ped- air blwydd oed yw'r hynaf ohonynt. Oherwydd mae'r cyíodolion Natsiaidd, yn naturiol, wedi marw; a chafodd cof- nodolion eraill, o gymeriad gwerinol iach, eu hatal pan oedd y Nats'iaid yn ben. Cofiaf yn dda am y cyfnod cyn y Rhyíel pan oedd papurau newydd gyda thra- ddodiad o gan mlynedd, fel y 'Berliner Vossische Zeitung,' yn "rhoi terfyn ar- nynt eu hunain," fel y byddai'r ymad- rodd swyddogol yn dweud yn barhaus. Ond nid cynnyrch ddoe ac echdoe yw'r awduron. Na, yn sicir, mae gan y rhain draddodiad y tu cefn iddynt. Wrth eu cyflwyno, dywedir yn aml er mwyn eu canmol, iddynt fod mewn carchar neu mewn gwersyll caethiwo. Yn hanes y bobol yma daeth rhywbeth yn wir y byddem yn ei broffwydo gyda hiwmor chwerw yn amser Hitler. Y pryd hwnnw, o dan y Trydydd 'Reich,' rhaid oedd Trwy ganiatâd y B.B.C. COFNODOLION O'R ALMAEN llanw cant a mil o ffurflenni yn holi am weithgarwch politicaidd, am achau dyn ac felly yn y blaen. A dyma'r dywed- iad: "Byddant yn ein holi hefyd," medd- em, "yn y Pedwerydd 'Reich.' Ond byddan' nhw'n gofyn, "A fuoch mewn carchar o gwbwl?. Os naddo, paham?" Gall yr awduron felly ein camarwain ynglŷn â'r wir sefyllfa. Ond mae yna ddrych ar ein cyfer sy'n adlewyrchu'r amg}'lchiadau yn eu holl noethni. Y drych hwn yw'r hysbysebion. Rhof ddwy enghraifft yn unig. Hysbyseb yn chwilio am bobol yw'r gyntaf. Mewn amryw bapurau bydd hysbysebion o'r fath yma yn gymysg â'r hysbysebion er- aill, fel rhai yn trefnu prynu a gwerthu. Yn yr hysbyseb y cyfeiriaf ati, dywedir, "Tref Stolzenber ar Arfon Warthe: gwa- hoddir cyn-drigolion i ddod i gyffyrddiad â Yna daw'r enw. A dyma ni ynghanol problem y ffoaduriaid. Dyma dref gyfan wedi ei diwreiddio, ac yn un o lawer. Mae'r trigolion, a fu unwaith yn gysurus eu byd, wedi eu gorfodi i fynd i ran ddierth o'r wlad heb eiddo o gwbwl i'w canlyn. Yna rhaid dechrau bywyd newydd. Ac mae rhywun o blith arwein- wyr ysbrydol y dref fach yn ceisio cyn- null y preiddiau sy ar wasgar. Bydd gobaith iddynt gael 0 leiaf ryw nerth i'r galon drwy rannu atgofion â'i gilydd. Ie, dyma'r hyn a elwir yn broblem y ffoaduriaid. Mae'r hvsbyseb arall a nodais yn gais am gyfnewid pethau, o dan y pennawd