Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae sôn mewn ysgrif arall am ferched o'r Eglwysi sy'n cynorthwyo'n wirfoddol. Byddant yn helpu wrth orsaf rheilffordd Hanover ac yn cyfeirio dynion sydd heb gartref i'r Neuadd a drefnir gan y Gen- hadaeth Gartref. Dyma eiriau nodwedd- iadol gan un o'r merched hyn: "Mae'n eglur y dyîai dyn heddiw gario hanner torth o fara bob amser yn ei fag; gallwn gwrdd â rhywun o hyd sydd mewn gwir angen." I derfynu 'rwyf am sôn am un cyfeir- iad rhyfedd o ddiddordeb i Gymru. Ym mhapur wythnosol Prifysgol Göttingen mae crybwyll am Gymru. Dywedir mai camp anodd oedd i Loegr gorffori Iwer- ddon a Sgotland. "Ond ymddangosodd Cymru, ar y llaw arall," meddir, "yn ychwanegiad hapus, er bod rhai gwlad- garwyr Cymreig yn tybio mai yn ddi- weddar yn unig y tynnwyd allan y ddraenen olaf o'u hymgorfforiad yn y Deyrnas Brydeinig. Digwyddodd hynny pan basiodd y Llywodraeth Lafur bresen- nol y gallai plant Cymru ddysgu Cymraeg o flaen y Saesneg." Tybed a fyddai pawb yn barod i gyt- uno mai hon oedd y ddraenen olaf ? LLAIS YR ADERYN Gan A. K. TOLSTOI (1817-95) Diferai y dafnau trwy'r.deilios Yn ddistaw pan beidiodd y glaw; Mi glywn y gog yn y pellter A sibrwd y brigau gerllaw. Ac megis â deigr yn ei llygad, Symudai y lloer ar ei hynt; Myfyriwn yng nghysgod masamen Yn drist am yr hen ddyddiau gynt: "Ai tybed bod f'enaid yn lanach Pan oeddwn heb bryder a chur? Ni choeliwn fod dynion yn aflan, Ni wnawn ond y peth a oedd bur." "Ond weithian mi wn beth yw ystyr Aflendid a dichell a thwyll, A'r llu o feddyliau disgleirwych A ddilewyd gan brofiad a phwyll." Fel hyn am fy mebyd myf}TÌwn A'r blynyddoedd pan oeddwn yn well; Uwch fy mhen yn y goeden fe bynciai Yr eos ei chân yn ei chell. 'R oedd tynerwch a nwyd yn ei nodau Fel pe mynnai hi ddweud wrthyf i: "Cymer gysur, na phoena heb achos, Daw dyddiau diddanus i ti." Cyf. T. Hudson-Williams o'r Rwseg (18.8.47)