Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Tipio Gan J. ELWYN WILLIAMS WEDI gorffen ei smôc slei tu ôl í'r dderwen, rhoes y cwnstabl frws- iad, merchetaidd braidd, i lawes ei wisg. Cvn camu ymlaen at ei íeic, safodd ennyd i edmygu'r botymau arian yn siswrneiddio mân belydrau i lygad yr haul. Wedyn, hebryngodd y peiriant gloywddu drwy'r adwy i lôn, a chan sadio ei het siap cloch â bys a bawd, cod- odd goes hirfain dros sêt ei feic â'r ys- twythder ac urddas a weddai i ddyn o'i alwedigacth arbennig ef, ac ailgychwyn- nodd ar ei daith. Ymhen deng munud yr oedd yn brecio yng nghadlas y Fron Uchaf. Achosodd hyn gryn gwmwl 0 lwch, heb sôn am frawvchu nifer o ieir a oedd funud yn ôl yn chwilota pryd rhwng y cerrig. Ond yn hollol ddigyffro ei hun, gorffwysodd y beic yn erbyn drws y 'sgubor gan datlu edrychiad at yr ieir, benochrog, unllyg- eidiog crbyn hyn. Cafodd gip ar gyn- ffon cath yn mynd o'r golwg yn ddeniad- ol rownd congl cwt, a cheiliog brown, powld yr olwg, yn ci chlynio hi ar ôl un o'i gariadon. Ond dyna'r cwbl a sym- udai. Allan yn y buarth, canfu'r cwnstabl grwt oddeutu deg oed, heb fod nemor uwch na botwm isaf ei wisg. Meddai wyneb bygythiol. yn holloì ddiffurf, a'i wallt du fel nyth brân. Ar unwaith, gwelodd y cwnstabl ynddo un o'i elyn- ion naturiol, a gofynnodd yn ofalus: "Fedrwch chi ddeud wrtha'i lle y ca'i afael ar Sam Parry, os gwelwch chi'n dda?" "O—Nhad? Mae o'n tipio defaid efo Now Ellis, Cae Cam-tu ôl i'r ty." "Wel, cerwch i ddeud wrtho fy mod i vma, wnewch chi?-Sol Huws, cwn- stabl." Gwenodd y crwt â direidi bwbach, gwên y buasai deintydd yn gweld cryn elw ynddi. 'Does ddim rhaid—'roddan ni'n sbio arno' chi'n dod i lawr y lôn." Yr oedd golau peryglus yn llygaid y cwnstabl a diflannodd y crwt i dduwch cynnes cwt-mochyn. Brysiodd Sol Huws i gyfeiriad y tÿ. Heibio i'r stablau, clywodd frefu aflafar defaid; brefu anobeithiol, colledig mewn gwahanol gyweiriau. Wedi cael talcen y ty, fe'i cafodd ei hun yng nghanol cyffro, miri ac arogleuon tipio defaid. Yr oedd y tip yn un syml, ond effeith- iol. Bedd yn y ddaear heb fod yn or- dflwfn, wedi ei smentio, a dringfa ymhob pen iddo. Hyrddiwyd y ddafad yn ddi- gelfydd, ddidrugaredd dros ei phen i ddŵr a thar y tip. Suddai unwaith fel plwm cyn nofio am y grisiau, yn tagu a thuchan yn ei braw. Allan o'r tip, fe'i hysgytwai ei hun fel ci ac wedyn âi ym- laen i gwyno a ffroeni yng nghynffonnau ei chwiorydd tipiedig. Amcan y proses oedd bedyddio er iechydwriaeth y corff, megis. Penderfynodd y cwnstabl ei amlygu ei hun ar unwaith. Dynesodd at geg y tip, y pen lle y cyflwynwyd y ddafad. Yno, safai Sam Parry, cawr o ddyn penddu a dwylo fel platiau. Estynnai fraich, a dyna ddafad yn llonydd mewn crafanc o ddur, ac mewn chwinciad yr oedd yn ym- luchio am ei bywyd yn y tip. Yn y gwaith hwn, cynorthwyai Now Ellis, un