Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Wel?" Fel gwyrth, cafodd lais o rywle: "Er-r-r-r- dim byd, Miss Parry- d-dim o gwbl. Galw i weld eich tad am funud er-er- mae'n ddrwg gen i fy mod wedi'ch trwblo chi, Sam Parry- a r-rhaid i mi fynd. Bore da, i chi gyd. A b-bore da i chwithau, Eni er-r- Miss Parry." Yr oedd wyth llygaid didrugaredd ar- Uandysul, no; ni allai edrych ar un.Peidiodd hyd yn oed y ci yn ei wibio gwyllt i gadw'r def- aid crwydredig mewn trefn, a safodd ar ei drithroed i wylio'r cwnstabl yn prys- uro'n ddiurddas o'r golwg. "Dyna ti geiliog wedi colli'r dydd, Sam Parry," ebe Now Ellis, yn synfyfyr- iol. "A'i guro gan iâr, hefyd," atebodd Sam Parry. RHIGWM RHAG OFN Blin yw dringo mwy i'r Llan Ar unrhyw fore Saboth; Ofer mwy yw llusgo traed I Beniel neu i Ramoth; Nid oes ynddynt bellach im Ond hen flaenoriaid cecrus, A blin fugeiliaid heb eu praidd, A hen hynafgwyr ofnus. Gwell yw mynd i'r Clwb am dro At gwmni llawen, diddan, Ac yfed peint o gwrw coch I gadw'r ofnau allan; Neu wylied campau Hollywood Mewn Sinema gymfforddus Nag eistedd ar hen seddau pren Y Piwritaniaid parohus. O na, rhaid imi fynd am dro Ryw unwaith bob chwe wythnos A dringo'r rhiw yn flin i'r Llan Neu gapel gyda'r gwyllnos: Mae bois y Clwb yn sôn bob dydd Am ddistryw erch atomaidd, A'r Sinema a'i Hollywood Yn dannod malais Rwsaidd. Gwell imi fynd i geisio nawdd Y prennau Piwritanaidd A rhoddi diolch pisyn tair Ym mocs y drem flaenoraidd; Mae'r demel faoh yn handi iawn Pe delai barn a distryw, Canys lle di-enaid ydyw'r Clwb I enaid yn y dilyw! LESLIE HARRIES.