Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Geiriau Cymraeg Sir Fynwy Gan OLWEN M. SAMUEL RHYW iaith lled fratiog sy gan lawer ohonom ni, wyr Morgannwg, fel y gWyr rhai ohonch chi. Mae'r dwla i gyd wrth gwrs yn ein plith ni Gymry yn troi yn glwt i'r Saesneg, ond nid am y rheini, y rhai ffola i gyd, yr wyf am sôn yn awr, ond am y mwyafrif mawr ohonom ni, sy yn Gymry ac yn siarad Cymraeg â Chymry. Mae rhyw ddod â gair bach o Saesneg gyda ni i mewn i'n Cymraeg hwnt ac yma. Wn i ddim beth yw'r rhes- wm-i ddangos sut Saeson da yn ni, efall- ai, neu, ein bod mor glyfar â gallu defn- yddio'r gair priodol Saesneg yng nghanol brawddeg Gymraeg. "S'dim lot o news ar y papur y bora 'ma" fe glywn, neu "Ma hi bob amsar dipyn bach yn half- soaked." Wel, gwaetha'r modd, ma dyn wedi cyfarwyddo â'r math yna o beth. Ond credwch fi, wedi byw am ddeuddeng mlynedd yn Sir Fynwy, d'wy ddim eto wedi dod yn gyfarwydd â chlywed ambell air Cymraeg yn dod yng nghanol braw- ddeg Saesneg, a rheini oddi ar wefusau rhai sy'n Saeson o ran iaith os nad o ran gwaed. Nid wyf am ddweud fod y geir- iau Cymraeg yma mor aml ag yw'r geir- iau Saesneg gyda ni ym Morgannwg. Ond mae yma lawer o eiriau Cymraeg ar dafod leferydd o hyd yn Sir Fynwy ym- hlith yr hen a'r ifanc fel ei gilydd. A mae'n ddiddorol iawn sylwi pa eiriau a gadwyd, rhai ohonynt yn rhai cyffredin diymhongar ddigon, na fuasech chi byth yn meddwl eilwaith y bydden nhw allan o gannoedd o eiriau coeth ac ysblennydd yn cael eu cadw mewn bro a droes yn Seisnig. Wn i ddim os yw e erioed wedi eich taro chi, ond mae gyda ni, ym Morgannwg, os nad trwy'r De i gyd (d'wy ddim yn Trwy ganiatâd y B.B.C, gwybod) gyflawnder o eiriau am roddi ergyd: 'pwno,' 'rhoi cot,' 'rhoi peren,' 'clustad,' 'planed.' Un arall sy'n gyff- redin yw 'wad,' fel enw, a 'wado' fel berf. Dyma'r un a ddewisodd Sir Fynwy ei gadw. Yr oedd y gath y dydd o'r blaen yn nelu mynd i ben bord rhywun, a meddai gŵr y ty, "Give that cat a wad. Achafi, I can't bear cats." Gair mawr gyda ni yn y De am guddio yw 'cwato.' Nid yw'r gair 'cuddio' byth i'w glywed os nad mewn araith gyhoedd- us a, hyd yn oed wrth chwarae plant, yr enw am 'hide and seek' yw 'whara cwato.' Gofynnodd bachgen bach am losen i'w dad yn Sir Fynwy yma sdim mwy nag wythnos yn ôl, a'r ateb angharedig a gafodd oedd, "No, you've had your rations for tonight. I've cwat the sweets now until tomorrow." Efallai mai'r peth hynotaf oll sydd ar glyw yma yw'r modd y defnyddir 'cam,' nid cam ­ bai, ond gwneud cam — 'to stride' yn Saesneg. Soniwn am ddyn yn gwneud camau mawrion, ond prin y gellir dweud ei fod yn ymadrodd safonol neu hyd yn oed gyffredin. Ond yng nghymoedd Sir Fynwy, mae'n ymad- rodd a glywir yn fynych am rywun sy'n brysio. Fel hyn: "He's going great cams this afternoon; must be going somewhere special I should think." Fe synnodd yr ymadrodd hwn fi yn fwy na dim un o'r lleill sydd ar lafar. Un o'r geiriau Cymraeg cynta a glyw- ais yng nghanol sgwrs Saesneg oedd 'di- flas.' Wedi mynd i gael dysglaid o de yr oeddwn at un o'r trigolion, a meddai, "The weather has been very diflas today