Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ef ran amlaf, ond fe'i defnyddir hefyd am bob math o dwlc sy tu faes i'r ty. Ceir y ferf 'cwtsio' hefyd. Fel rheol mae'r cwtsh yn lle lled gyfyng, ac wrth gwtsio lan at rywun r'ydych yn cynilo lle. Peth mynych yw clywed, "Cwtsh up to me, then you will be warmer." Nid 'in the queue' y bydd y rhan fwyaf o wragedd y rir hon yn treulio eu boreau ond yn y 'gwt,' fel pob Cymraes arall. Fe draw- odd y Ffrancwyr, fel y Cymry, eich bod yn gwneud ffurf cynffon wrth aros yn y queue, oblegid y gair Ffrangeg am gyn- ffon neu gwt, fel y dywedwn ni yn Ne Cymru, yw e. I'r gwt yr awn i gael teis- en neu bethau prin eraill. Yn y gwt pwy ddydd yn y dref hon, fe glywais un o'r trigolion, mam ifanc. yn cysuro ei babi drwy ddweud: "daro, daro." Nid yw'n syn bod ebychiadau fel hyn ar lafar, ef- allai. Fe glywir llawer ohonynt o dro i dro. Mae 'daro dy ben di' yn gyffredin a 'daro shwd beth' a 'diar annwl' a 'cato pawb.' "NID AGORODD EI ENAU" Abertawe. Y dydd o'r blaen fe glywais air bach sy'n swnio'n ddoniol i mi, hyd yn oed pan glywir ef mewn brawddeg Gymraeg, ond doniolach byth pan ddaw yng nghanol sgwrs Saesneg, sef 'cewc' Nid yw yn y geiriadur, cofiwch, ond mae'n fyw i wala ym Morgannwg. Defnyddir ef yn gymwys r'un peth gan wŷr Sir Fynwy ag y'i defnyddir yn y rhannau Cymreig. "I've got no cewc on him at all," ebe rhywun am gyd-dd}n nad oedd yn gyfaill iddo o gwbl. A'r rheswm a roes y cyfaill wedyn pam na hoffai'r dywededig ddyn oedd, yn ei eiriau ef ei hun, "He's so very wit-wat." Mae'r gair wit-wat yn aw- grymu ei ystyr oddi wrth ei sŵn. Ansoddair arall sy'n eitha cyffredin, gwaetha'r modd, yw 'twp.' Nid oes yr un grym i'r gair Saesneg 'dull'; mae'r gair Almaeneg a fabwysiadwyd i'r Saes- neg yn ddiweddar \n well nag e o ran aw- grymu'r sŵn. sef 'dumm.' 'Dumm" yw'r gair Almaeneg am ein twp ni. Trwy boenau a'r trybini-trwy helynt Yr hoelio a'r poeri, Uwch anwar drin a chyni Y Groes, ataldodd ei gri. ARTHUR JONES