Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyrddau Mawr Gan ELWYN L. JONES "Cyrddau Mawr" pan fydd rhyw siarad am y rhain bydd tuedd ynof ar un- waith i fynd yn fyfyrgar ac ymddangos yn ysgolheigaidd. Yn sawr y ddeuair yma y llecha cyfrinach hen brofiadau a dyfodd i fod yn bethau annwyl yn fy nghof, anwyldeb sydd yn gymysgwch o lawenydd a thristwch a hiraeth. Pan ddaw'r cyrddau ar fy nhraws y dyddiau hyn fe brofaf ryw gynhyrfiad bach rhyf- edd a bydd fy nghalon yn pwnio ychydig ynghynt nag arfer, ac fe'm caf fy hun yn mwynhau esbonio i mi fy hun y rhesymau am y cyffro. Bydd rhai o'm ffrindiau yn blino arnaf pan ymhelaethaf fel hyn ar destun mor ddinod, rhywbeth sydd heb fod o ddiddordeb i neb yn y byd ond i mi fy hun. Ond, bid siwr, dyma un o'r pleserau bach diniwed na waherddir i minnau yn fwy na neb arall, sef ychydig funudau o "chwarae" yn y llwyd-olau, megis, i ymddangos yn dipyn o sgolor wrth fynd yn ôl i brofiadau plentyndod i esbonio'r tipyn bach o ddyn y tyfais iddo. Diwrnod "poenus o hapus" oedd y Sul "Cyrddau Mawr" gyda ni gartref yn y Bont gynt. Yr oedd pob Sul yn bwysig o ran hynny, ond yr oedd y Sul blynydd- 01 neu hanner blynyddol yn eithriadol o beth. Byddai siarad amdanynt fisoedd ymlaen llaw. Byddai fy chwaer yn poeni mai rhyw "hen Northyn" fyddai yno eto, a William drws nesaf yn ddiffael yn ei cheryddu bob tro gan ddweud wrthi am beidio â chellwair. (Blynyddoedd wedyn y sylweddolais innau nad rhyw- beth yn ymwneud â 'gwair' a 'thwll' a olygai hoff air fy chwaer). Byddai fy mam yn gobeithio y byddai'r ddau bre- gethwr yn cynrychioli'r Gogledd a'r De, ond yr oedd Nain yn hollol siŵr bob am- ser y byddai'r cyfarfodydd, pwy bynnag fyddai'r pregethwyr, "o fudd mawr i ni gyd." A minnau, druan, yn grwtyn ifanc yn brawychu wrth feddwl y bydd- ai'n rhaid i ni eistedd yn llonnydd trwy'r holl gyfarfodydd a dygymod â bloeddiad- au dau bregethwr cryf na ddangosent un- rhyw awydd i ddod i ben. Erbyn y diwrnod pwysig byddwn wedi meddwl a chynllunio llu o ddiangfeydd posibl, a gwybod o'r dechrau mai rhywbeth yn ym- ylu ar wyrth a allai fy rhyddhau rhag yr holl artaith. Fy unig gysur, fisoedd ym- laen llaw, oedd cofio y deuai'n fore Llun yn fy hanes. Yn wir, am flynyddoedd, fe aeth y syniad o fore dydd Llun yn fy meddwl yn rhywbeth cymysglyd; aeth i fagu ystyr arbennig iawn aeth yn simbol o ryddid. Sul a Llun caethiwed a rhyddid, dillad parch a dillad chwarae, seti brown caled a chaeau glas tyner ma'n rhaid mai rhywbeth felly oedd y cyferbyniad a lithrai'n freuddwydiol felys trwy iy meddwl ifanc ar hyd yr oedfaon. Eis- teddwn yn Ilonydd ddigon wrth ochr nain trwy bregeth y pregethwr cyntaf, a theim- lo'n hapus o'r cyfle i godi i ganu'n syth ar ei hôl. Ond pan welwn yr ail yn codi, yn glamp o ddyn corfforol, yn carthu ei wddf ac edrych o'i gwmpas yn hamdden- ol a phwysig, fel petai neb erioed wedi pregethu cyn y diwrnod hwnnw, yr oedd yn ormod. Disgynnai fy esgyll ac eis- teddwn yn aflonydd a throsi o gwmpas a chil-edrych i wyneb nain yn awr ac yn y man mewn rhyw hanner gobaith y gweJ-