Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wn olion blinder neu. 0 leiaf, gydymdeim- lad yn ei golwg. Eisteddai hithau'n syth, fel pren, fel petai wedi ymddelwi. Ni ddarllenwn ddim yn ei golwg, na blinder na diflastod nac un gronyn o bleser chwaith. Syrthiwn i fyfyrdod a breu- ddwyd a brawychwn wrth feddwl am weddill y pregethau a oedd o'm blaen. Yna deuai cvsur i mi wrth feddwl am y bore wedyn, bore dydd Llun. Ymlon- yddwn a deuai imi bleser bach melys wrth feddwl am ehangder mynydd a maes a ymylai, 'r wy'n siŵr, ar fod yn bleser di- algar am oriau'r gwynegu llythrennol ar seti caled yng nghwmni pobl mewn oed na feddent un llygedyn o ddychymyg am brofiadau crwtyn bach. Aeth yr adeg honno heibio ers blynydd- oedd a nain hithau hefyd. Ond hyd y dydd heddiw profaf fy nghynnwrf bach munudoî'melys-drist ar ddiwrnod cyrdd- au mawr, cynhysgaeth o'r gorffennol pan oedd pobl gyffredin yn deall ofn Duw, serch na ddeallent lawer am brofiadau plentyn. Cychwyn wythnos arall o waith caeth- iwus a hiraethu eto am dawelwch i "gapela" neu i ddioga; "troi dalen new- ydd," a wynebu ansicrwydd wythnos ar- all ym myd siop a gwaith ac ysgol; dyna adwaith mwyaf cyffredinol dynion yng Nghymru heddiw i'r syniad o fore dydd Sul a bore dydd Llun, mi dybiaf. Ond i mi y mae rhywbeth arall hefyd. Daw nain yn felys i'm cof, a'i hamynedd a'i disgyblaeth anhygoel â phethau'r capel; daw'r cof am y seti caled yna y dysgais rifo pob rhigol ynddynt heb unrhyw drafî- erth, a daw'r cof am y breuddwydio mel- ys am ryddid awyr agored, a daw'r poen o sylweddoli nad yw y pethau hyn mwyach. Bron na ddywedwn i Sul Cyrddau Mawr, a phob Sul a Llun o ran hynny, dyfu mewn amser i fod yn rhyw gymhlethdod yn fy meddwl, a'r dryswch yn ei fynegi ei hun yn aml mewn rhyw gyfres o ddarluniau gwibiog am nain a syniadau am ryddid a chaethiwed. "Drychfeddwl plentyn!" Ie, debyg iawn. Onibai am hynny petruswn yn euog rhag datgelu'r fath beth, 'r wy'n siŵr. Ac eto, er mai gwanhau a fu hanes fy "mhrofiad bach" ar hyd y blyn- yddoedd, ac amser yn gwneud fy ngafael ar fanylion yn llacach o flwyddyn i flwyddyn, clywaf lais bach o rywle yn dweud wrthyf na fyddaf byth yn rhydd o'r afael, ddim yn IIwyr rydd, oleiaf.