Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

â'r drws, cyfarchwyd ef gan lais tawel melodaidd, "Hylo? Sut mae pethau er- byn hyn? Gwelaf fod y dei goch mewn ffafr." Cafwyd sgwrs hwylus, ac yna cyffyrddiad ysgafn y bysedd meinion ar rudd y bachgen, bron fel cyffyrddiad mam gariadus. O dipyn i beth cododd cyfeillgarwch byw rhwng y ddau-y siopwr golygus canol oed a'r bachgen ifanc prydferth. Yn aml gwelid hwy gyda'i gilydd fin nos, allan yn y car neu efallai yn y sinema. Amlwg fod personoliaeth gyfoethog gref John Evans yn ei gwasgu ei hun ar gym- eriad tyner yr hogyn; daeth yn aelod o gôr capel y Methodistiaid, ac yn selog yn yr Ysgol Sul a chyfarfodydd y Bobl Ifainc. Llamodd calon y llanc pan sylw- eddolodd fod ei gyfaill yn pwyso arno i adael yr Ysgol a mynd yn brentis ato a byw gydag ef yn y ty uwchben y siop. Ond cyn i ddim ddod o'r syniad cym- erwyd yr hogyn yn wael. Yr oedd ei rieni yn byw yn y wlad ryw ugain milltir i ffwrdd; nid oedd gwraig y llety yn un rhy garedig, ac felly bu'r bachgen yn ffod- us yn ei gyfaill newydd. Ddwywaith bob dydd byddai'n galw i'w weld, a phob tro yn dod â rhywbeth blasus i'r claf; weithiau deuai â sypyn mawr o flodau a dorasai â'i ddwylo ei hun o blith goreuon ei ardd. A'r claf ar wellhad. eisteddodd gydag ef ar ôl cau'r siop, yn darllen darn- au o farddoniaeth iddo, neu ambell dro yn canu iddo yn ei lais arian tawel. Pe digwyddai i'r llanc s}Tthio i gysgu, gwyl- iai ef yn dyner am ysbaid, cyffyrddai yn ysgafn â'i rudd ac yna âi allan o'r ystafell ar flaenau ei draed. Byddai yn ôl dran- noeth cyn mynd i agor ei siop. Pan ddaeth y llanc yn ddigon cryf i godi a mynd allan yr oedd y car yno at ei wasanaeth. Car John Evans a aeth ag ef adref wedi hynny ymlaen, ac yr oedd ei rieni, pobl syml cefn-gwlad yn ddibaid yn eu diolchgarwch. "Cofia di," medd- ai'r tad, "calon lawn John Evans a gym- erodd dosturi arnat." "lc," atcgai'r fam, "ef yw'r dyn mwyaf caredig sy'n bod. Gofala di, Wil, na fyddi yn cymryd gor- mod yn ganiataol; mae Mr. Evans yn un o wýr cyioethoca'r ardaloedd 'ma." Yna fel rhyw ail feddwl. "Ofynnodd e i ti yn ddiweddar am adael y County a mynd ato i'r fusnes?" Cyn i Wil gael amser i ateb, dyma gnoc wrth y drws a Mr. Evans ei hun yn cerdd- ed i mewn, ac yn ei ddwylo gydaid mawr o rawnwin i'r claf. Wrth gwrs, rhaid aros i de a sgwrs fach. Ymhen tipyn daeth y siarad yn ôl at salwch Wil, a chyfle arall i'w rieni ddatgan eu diolchgarwch. "Peidiwch â sôn," meddai'r ymwelydd, "yr wyf yn hoff iawn o Wil, a chyfaddef y gwir wrthych, yr wyf wedi rhoi fy nghalon ar ei gael ataf i'r siop. I hyn y deuthum i lawr yma heddiw, ac os rhodd- wch eich caniatâd, ni bydd yn edifar gen- nych chwi nag ef byth." Dyma law Rhagluniaeth. Heb yn wybod iddynt eu hunain cydsyniodd ei rieni iddo fynd yn ôl gyda John Evans y noswaith honno yn y car. Yna ar ôl cael wythnos arall o wyliau yr oedd i ddech- rau yn y siop. Yr oedd Wil wrth ei fodd, ond yn sydyn cofiodd am y cusan rhyfedd a gafodd un noson yn yr ardd, a rywfodd gwnaeth yr atgof iddo deimlo'n anghysur- us. Yn wir tipyn yn dawel fu'r daith yn ôl i'r dref, a phob ymgais at dorri geir- iau'n fethiant hollol. Erbyn rhoddi'r car i mewn dros nos yr oedd yn tywyllu, ac wrth groesi'r ardd i gyfeiriad y ty, trodd John Evans at y bachgen, ac am eiliad gwasgodd ef rhyng- ddo a'r mur a'i gusanu; cyffrodd anes- mwythyd yn ias oer ym mêr esgyrn yr hogyn. A dyna ddrws y tŷ'n -agor, a llais car- trefol Mari'r forwyn yn gweiddi o'r troth- wy, "Chi, meistr, sydd yna?" Aeth y ddau i mewn heb ddweud gair. Yr oedd swper blasus ar y bwrdd yn eu haros ac ymroes John Evans i'r wledd ag awch. heb gymiyd arno sylwi ar ddifl- yg archwaeth Wil. Ar ôl bwyta yn