Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar Daith Gan T. GLYNNE DAVIES YR oedd yno ddyn â'i galon yn llawn o freuddwydion. Ymneilltuodd yn swta oddi wrth y gweddill ohonynt. Ni welai ef reswm i'r pwnio a'r cega. Bydd- ai lle i'r cwbl ar y bws, ac eisoes yr oedd hwnnw yn ymwacáu ger y siop ar draws y ffordd cyn troi a chael ei lwytho dra- chefn. "Ffyliaid," meddai'r dyn â'i galon yn llawn o freuddwydion. Bellach yr oeddynt ar eu seddau coch, a'r bws yn symud dan ei bwysau. Eis- teddai'r breuddwydiwr yn ymyl dyn mewn coler gron. "Diolch am oleuni," ebe'r offeiriad, oblegid yr oedd yn dywyll ar y ffordd, ac o ran hynny cyffyrddai glaw mân Medi yn flin â phopeth. "Y drwg efo'r tacle bysus yma ydi eu sŵn-nhw." A sŵn y rhai sy'n eu llenwi," ebe'r Hall. "Ie, ie," meddai'r person, gan ochneid- io yn ddwys. "Biti garw bod dyn yn gorfod cuddio ei wir deimlade mewn swn. Ystyriwch y creaduriaid yma, bob un, gyfaill. yn berchen enaid, bob un â'i ddyheade ei hun, bob un yn ysu am fynegiant i'w enaid, ac yn methu oherwydd bod rhyw len ffug rhwng pob dau ohonynt. "Gresyn na fedre dyn wthio'r llen draw. Y mae modd. wyddoch-chi, i ddyn ddatguddio gogoniant ei enaid, ac felly mwynhau'r gyfathrach lawn. Trwy siared yr hyn sy'n llenwi ei galon-e. Ys- tvriwch finne. "Yr wyf i'n hoff o siarad." "O!" meddai'r dyn â', galon yn llawn o freuddwydion. "Ydw; ac y mae pob dyn yn cael íy adnabod. A, wyddoch-chi," meddai yn gyfrinachol, gan ogwyddo ei wefusau yng nghylch clust ei gyfaill, "beth fydd y di- wedd?" "Ia, ia," ebe'r breuddwydiwr, "dyna'r diawl sydd." Cymerodd fantais o gyfle'r egwyl i edrych o'i gwmpas. Gwelai ffermwT a'i wasgod a'i gi yn y pen ôl, a bachgen plor- ynnog mewn spectol ar ei gyfer. Dwy ferch ifanc yn llawn chwerthin vno hefvd. Merch aeddfed wefusgoch yn cil-edrych ar lyfiad buwch gwallt y llanc a rannai'r sedd efo hi. A morwyn dew y plas ag un glun yn ddethau iawn ar sedd, a'r llall yn llenwi'r llwybr. A llawer un arall, rhai ohonynt ymhlith ei gydnabod, ac eraill yn ddieithr. Prysurodd y bws yn ei flaen, rhwng cloddiau uchel, dros bontydd atgas, drwy bentrefi unlamp, ac ar draws cefn gwlad. Yr oedd pawb yn dawcl iawn, a phrin yr oedd murmur o ben draw'r bws nad dym- a'r breuddwydiwr, ymhen oesoedd megis, yn clywed llais y bachgen plorynnog mewn spectol. "A fyddi di yn gariad i mi, Betsan Preis?" meddai wrth y ferch aeddfed wefusgoch. "Yr wyf yn dy adnabod fel cariad hen ddynion; cariad pob dyn a'th cymer. Ond a roi di dy hun i un fel myfi yn serchog a thragwyddol? Pam nad atebi di, Betsan Preis?" "Fe garwn dy gôt di Betsan Preis," ebe un o'r mcrched ifainc llawn chwerthin, "ond ni fynnwn ci hennill yn y ffordd y gwnaethost ti."