Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Paid ag edrych arnaf fel hyn," medd- ai'r llanc a rannai sedd Betsan, "heb i mi fedru dy fwrw o'm cof wedi ymadael â'r bws. Paid â chynnig imi ystwythder dy gorff os nad wyt hefyd yn cynnig dy galon. Ond gwn nad oes gennyt galon i'w chynnig i mi nag i neb arall. Tro draw Betsan Preis; na, gwell iti beidio." "Wel, wel!" meddai Dyn y Tocynnau, â'i law ar ei ên. Edrychai ar ŵr pell ei feddwl gyferbyn. "A yw o werth inni ddod atat eto, a gofyn iti dalu eilwaith? Sicr gennyf nad wyt yn cofio roi'r pres imi eisoes." Ond hyd yn oed pe bai'r creadur hwnnw yn clywed llais Dyn y Tocynnau, go brin y medrai ddeall y geiriau. Y SWYDDFA FWYD Daeth arswyd yr "Hyngri Fforties" I lawr hyd y dyddiau hyn; "Dim ond bara mall,' meddai hwn a'r llall Cyn ddued â phwll glo'r Glyn; Fe dyrrent i'r Tabernaclau I ddiolch am Gobden a Breit, Am Robert Pil, ac aeth pawb yn chwil, A'r byd a ddaeth yn ôl reit. 'Mhen canmlwydd ail-gasglodd cymylau Uwchben naintîn-florti-sefn, Yr eira yn lluwch bob dydd godai'n uwch Nes cuddio yr holl ddrysau cefn; Ail agor y synagogau I dderbyn wynebau llwyd, A diolch trwy wŷn i'r mawr feidrol ddyn A ddyfeisiodd y "Swyddfa Fwyd." Rhaid galw ar batriarch y Dolau, Hen gwafriwr o'r ffifti-nain,— Darllennodd ryw gyfran o'i hanes bach diddan Y dyn gadd ei borthi gan frain; Ond cododd i'r uchelderau Pan ddeffrodd ei gynnes nwyd,- "Nad oedd eira mewn bod o dan unrhyw rôd A fedrai fario y Swyddfa Fwyd." Y nesaf oedd Davies Criterion, Efo'r Saducead y plwy,- Datganodd ei ofwy na fu dros y trothwy Yn casglu ers misoedd a mwy, Cyfeiriodd at weddw Sareffta- Os oes ar y stori ryw goel; Diolchai mor rhadlon i'w briod Rhiannon O'r Swyddfa gael Cod-Lufar-Oel. Cefnddwysam. Yr oedd ei lygaid gẅaedgoch yn hi- borthi ar gorff Betsan Preis, a sibiydai ei weddi daer dan ei wynt alcohol. "Wel," ebe'r ffermwr trwm wrth ei gi. "Byddi-di adra toc. Cofia-di hel rhai o ddefaid y Bryniog i'r gorlan acw yfory efo'rlleill." Ni threfnodd Dyn i gi gael enaid. Felly ni siaradodd hwnnw gymaint ag un gair. Ond eisteddodd yn astud, ac ymgynhyrfai ei dafod wrth lithro yn ôl a blaen heibio i'w ddannedd miniog. Syllaî a'i holl egni ar goes helaeth morwyn y plas. Ac yr oedd ei gynffon yn siglo. Do; chwarddodd y dyn â'i galon yn llawn o freuddwydion. Un eto o'r Ysgrifenyddion A gerddodd yn daigryf trwy'r pyrth; Modernydd oedd ef na chredai mewn nef, Gan gyfrin esbonio pob gwyrth; Rhyw aiegori oedd môr Galilea, A Sârs ydoedd porthi'r pum mil; Ymsythodd i daeru wir werth llyfrau dognu, Fod bosib ar bapur gnoi cil! Fe gododd Huw Morus y Bwtsiar, Gan agor y Llyfr o'i flaen; Darllennodd,yn ara am geiîfaint Gadam, A fEugio dal cyllell ar iacn; Cymwynaswr cymdogaeth oedd Morus Ei weflau a'i gernau yn goch; Dibrisiodd yr eira, a'i íoliant i'r Swyddfa Am iddi roi trwydded lladd moch. Caed profiad gwraig ifanc y Felin, Sut cadwodd hi dylwyth ei thŷ,— Yr olwyn a rewodd, a hithau lasmeiriodd Nes cael gan y Swyddfa B. U. Hi lamodd dros ofal rhagluniaeth Mewn mawl am Ffwd Offis y dre; Cans nid o Seibiria na meysydd yr India Y cafodd hi siwgwr a the Cyn mwmian 'r hen dôn Dan Dy Fendith, Daeth Huws y Gweinidog o'i blas, 'R ôl ysgafn besychu-rhy oer oedd i chwysu- Er rasglu'r mydylau i'w das; Cyfarchodd y brodyr a'r chwiorydd, Ei wcdd o dan santaidd nwyd:- "Lord Woolton freuddwydiodd, a Strachey orflennod Ddwyfoli y Swyddfa Fwyd." LLWYD O'R BRYN.