Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MOZART Darllenwn lith a haerai: "Nid oes dim Yn nefnydd natur dyn a'r hyn a ẃêl Ond dawns wallgofus electronau chwim 0 gylch eu duwiau a'u pwerau cêl; Mawrygwn gemeg sych a ffyseg oer Fel sail pob'mirain greu, pob breuddwyd gwyn, A phob dewinol ias dan leufer lloer,— 'D yw holl orawen byw yn ddim ond hyn." A daeth yn dawel ysgafn ar y gwynt, Yn glir a pheraidd, dy gyfaredd ddrud: Dy seiniau nwyfus ar synhwyrus hynt I ddelwi a brofaist yma yn hyn o fyd; A gwyddwn ddyfod gynt o'th ddefnydd crai Unwaith orfoledd Duw—о ddim ond clai. Rhosllannerchrugog W. J. BOWYEK Y NADOLIG Crogir y misylto a'r celyn coch A'r papur lliw blith-draphlith dros barwydydd, A §ŵn cleciadau y cracerí croch Yn trystfawr ddiasbedain drwy aelwydydd; 0 boptai'r wlad archwaethus sawr a gwyd I bêr-ogleisio chwantau y bolrythion, A thine poteli'r wledd yn boddio nwyd Llymeitwyr llwfr ac ymroddedig lythion. Ond pan fo uchaf swn y miri a'r hwyl Yn lIon ddygyfor drwy aelwydydd cynnes, A phan fo ysbryd rhadlon yr hen wyl Yn awr ei hanterth hi,—onid anghynnes Fydd nâd y baban gwinglyd o'r llofft gefn Yn cwyno wrtho'i hunan ar y drefn,