Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PASG Ar W ýs y cenin a bronfreithod bro Heddiw yn llawen fe ddadfolltir dorau Y cytiau modur, ac ar frysiog dro Olwyna torf i'w hynt i deg ororau; Onid yw'n Basg? a swyn y môr a'r maes Yn addo balm i ofid gwýr a gwragedd, A lleisian'r gwersyll gwyl yn taeru'n llaes Fod claddfa i war ac ofn ym mroydd gwagedd. Hwynthwythau'r lluoedd Uac, heb ddeall ddim,- Na bu eu taith o wyddfod eu gofalon Ond ofer gyrch, ac ar eu gwibdaith chwim Ni chlywsant oergri hiraeth yn eu calon, Na sŵn peiriannau'n boddi islais hedd Engyl yn treiglo maen o ddrws rhyw fedd. Y SULGWYN Mae hwrli bwrli'r byd, ei ffeiriau gwag, Ei gysgod luniau a'i syrcasau croch Yn dal i ddenu'r dorf â'u bost a'u brâg I wario'i da am saig o gibau moch; Ar ffwndrus rawd freichfraich â hap a siawns Treulia ei dydd ar drywydd Mamon hyll," A llithro'n chwil hyd gabol loriau'r ddawns Hyd oni flina'r sêr ar loywi'r gwyll. Ond mewn addoldai llwydwedd yma a thraw Cyferfydd rhywrai'n deulu bach cytun Fin nos, ac yno i'w mynwes hwy fe ddaw Gobaith am Bentecost Y Meistr Ei Hun,- Rhyw ddau neu dri mewn ambell festri foel Ar air Hen lychlyd Lyfr yn rhoi eu coel. Llanfairfeçhan GERALLT DAVIES