Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Ymwelodd Pwshcin ag Erzerum yn 1829. "Y mae gelyn- iaeth rhwng Erzerum a Chaercystennin," medd yn ei ddis- grifiado'i daith. Ni fynnai Erzerum dderbyn trefn newydd y Swltan; un p'i hen bobl sydd yn llefaru, a "gwell yw'r hen" yw ei destun) Stambŵl sydd heddiw'n moli'r estron, Ac yntau'n disgwyl am ei brae Fel sarff am dagu gwr sy'n cysgu; Stambwl sy'n hepian yn y gwae. Stambŵl sydd wedi gwadu'r Proffwyd; Rhoes heibio'i ffydd a'i harfau dur, A throes ei llygad i'r gorllewin I fyw yn llwfr fel gweision hur. Am seigiau melys llygredigaeth Hi werthodd weddi'r saint a'u cledd; Troes awr y weddi'n awr y gloddest I ddrachtio'r gwin ym miri'r wledd. Stambŵl sydd wedi colli'r grefydd, Diffoddes ynddi olau'r ffydd, Ac yno gwelir merched parchus Yn rhodio'n feiddgar ganol dydd. Hi ad i'r weddw ofyn cardod, Ond rhyddid llawn a ddyry hon I'r gwyr i fynd yn hy i'r harem A'r eunuch llwgr yn cysgu'n llon. Nid felly ein Arzrwm fynyddig, Canolfan llwybrau masnach ddrud; Ni chysgwn ni mewn swrth anlladrwydd, Ni eill y gwin fyth ddenu'n biyd. Ymprydiwn ni ac yfwn ddyfroedd Y ffynnon bur sydd well na'r gwin; Mae gennym dorf o lanciau eiddgar Yn barod fyth i lamu i'r drin. Eiddigus ydym fel yr eryr Gosodwn lu o wylwyr prudd Rhag dyfod mab i lygru'r merched A gedwir yn yr harem gudd. ARZRWM Gan PWSHCIN Cyfieithiwyd gan T. Hudson-Williams o'r Rwseg (18.8.47).