Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Cyfieithiad o'r Almaen o'r faled 'Die Wallfahrt nach Kevlaar' gan Heinrích Heine) Y fam sydd wrth y ffenestr, A'r mab ar wely claf, "Oni fynni godi, William, I weld yr Orymdaith braf?" "Yr wy'n rhy wan i godi, Ni fynnaf weled mwy Neb ond y fun fu farw, Mae 'nghalon fach yn ddwy." "O cyfod, tyrd i'r Eglwys, A'th lyfr, a'th offrwm bach, Gwnaiff Mam dy Dduw di eto Dy galon yn llon ac iach. Mae baneri'r Eglwys yn chwifio, A'r côr yn canu'n llon; I Gwlen-ar-Rein y cerdda'r Orymdaith lawen hon." Y fam sy'n dilyn camre'r Torfeydd, a'i mab gyda hi, A'r ddau yn y côr yn canu '0 Fair, Bendigwn Di!' Mae Mam ein Duw ni heddiw Mewn dillad gwych a drud, O groeso i'r holl gleifion A ddaw o bellter byd. Y cleifion a ddaw ag offrwm; Myrddiynau o bob oed; O gŵyr y lluniant aelodau, Laweroedd llaw a throed. A lle'r offrymir dwylo, Iacheir y dwylo claf; Os llun y traed yw'r offrwm, Fe rodia'r cloff yn braf. I'r Eglwys ar ffyn baglau Aeth llawer truan yn hy, Gan wybod y cai ddawnsio Yn ôl tros drothwy'i dy. Y fam a luniodd galon O'r deunydd meddal gwiw, "I Fam ein Duw Bendigaid, Rho hon i wella'r briw." Aberystwyth. PERERINDOD s Yn swil y dygodd yntau Ei rodd i Frenhines Nef; Y deigryn a grynai'n ei lygad, O'i galon y crynai'i lef: "Aruchel Fendigedig, Wyt Burlan Forwyn Duw, Brenhines y Nefolion, Iacha fy nghalon wyw! "Mae mam a minnau'n trigo Yng Nghwlen, yn y dre, Y dre sydd â'i llu eglwysydd I'th ganmol hyd y Ne.' 'R oedd Gretchen yn byw gyferbyn; Nid yw hi yno mwy- O Fair, dyma lun fy nghalon, Iachâ ei phoen a'i chlwy! "Ond iti iacháu fy nghalon, Ni bydd neb gwell na mi I'th ganmol a chanu beunydd '0 Fair, Bendigwn Di!' Fe gwsg y fam a'r bachgen Mewn stafell fechan wael; Ond Mam ein Duw ddaeth yno Ar ysgafn droed ddi-ffael. Uwch gwely:r claf hi blygodd, Yn dirion rhoes ei llaw Ar galon glaf y bachgen Gan wenu'n fwyn a di-fraw. Y fam trwy ei hun a'i gwelai, A mwy a welai o hyd Pan ddeffrowyd hi allan o'i thrwmgwsg Gan udó ci ar y stryd. Ei mab oedd eto yno Yn gorwedd, ond nid yn fyw; Chwaraeai pelydr y wawrddydd Ar welwder ei ruddiau gwyw. Teimlodd y fam ei ddwylo Gan eu cymryd i'w dwylo hi, Ac yna canodd yn ysgafn 'O Fair, Bendigwn Di.' D. MYRDDIN LLOYD.